Y Cyfnod Neolithig (Oes Newydd y Cerrig) - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
Yn dechrau tua 4,000 CC
Yn ystod y cyfnod Neolithig digwyddodd rhywbeth dramatig yng Nghymru.
Ar ôl milrif heb unrhyw newid cyflym, yn sydyn gwelwyd nifer o ddatblygiadau arloesol mewn nifer o agweddau ar fywyd - ffermio, codi cofadeiladau a chloddio cerrig, gwneud crochenwaith a sefydlu cysylltiadau rhyngwladol gydag Iwerddon a’r Alpau.
Nid yw pethau wedi arafu ers hynny. Gyda dyfodiad ffermio tua 4000 CC clymwyd cymunedau i’r tir mewn ffyrdd newydd, gan newid rhythm bywyd.
Anogodd ffermio pobl i ymsefydlu mewn un lle fel bod modd iddynt ofalu am eu cnydau ac anifeiliaid. Golygai’r bwyd oedd dros ben fod modd i’r tir gynnal mwy o bobl, ac fe sicrhaodd fod gan rai amser i ddatblygu arbenigeddau newydd a arweiniodd, dros filoedd o flynyddoedd, at gynnydd technolegol pellach.
Adeiladwyd beddrod Bryn Celli Ddu ar Ynys Môn yn fan claddu ar gyfer un o’r cymunedau amaethyddol cynnar hyn. Dyma’r unig gofadail cynhanesyddol, ac eithrio Côr y Cewri, i gael ei halinio â chodiad haul ganol haf.
Ar fore Dygwyl Ifan, tywynna’r haul ar hyd tramwyfa’r beddrod gan oleuo’r siambr, i gynhesu esgyrn y meirw mae’n debyg.
Gallwch weld fideo o aliniad yr heuldro yn Gwreiddiau, ynghyd â charreg gerfiedig ryfedd a ddarganfuwyd yn y beddrod.







