Y cyfnod Paleolithig a Mesolithig (Hen Oes y Cerrig ac Oes Canol y Cerrig) - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd
250,000 o flynyddoedd yn ôl a tua 5,500 o flynyddoedd yn ôl
Dewch i weld yr esblygiad corfforol o homininau cynnar, pedair miliwn o flynyddoedd yn ôl, i bobl fodern tua 35,000 mil o flynyddoedd yn ôl ar ein mur penglogau cyfareddol.
Mae’r cyfnodau Paleolithig a Mesolithig yn rhai cyffrous iawn i archeolegwyr.
Mae nhw’n creu darlun o’r gorffennol drwy astudio offer, adnabod esgyrn anifeiliaid, astudio’r cofnod paill a thystiolaeth amgylcheddol arall i ddysgu mwy am yr amseroedd pellennig hyn.
Digwyddodd cylchdro o newid hinsawdd naturiol drwy gydol y cyfnodau Paleolithig a Mesolithig.
Gyfnewidodd rhwng amodau oer, rhewlifol pan oedd iâ’n gorchuddio arwyneb Cymru, ac amseroedd cynnes neu gyfnodau rhyngrewlifol, fel yr un yr ydym yn byw ynddo ar hyn o bryd. Gelwir y cyfnod hwn hefyd yn ‘Oes yr Iâ’.
Y ‘Ddynes Goch’ o Ogof Pen y Fai yn Gwreiddiau yw’r gladdedigaeth gyfoethog hynaf o berson cwbl fodern (fel ni) yn Ewrop.
Sgerbwd dyn ifanc ydyw mewn gwirionedd, ac nid menyw (darganfuwyd hyn yn sgil gwaith diweddarach), ac mae’r dehongliadau o’r gweddillion yn newid o hyd.
Roedd pobl Mesolithig yn byw fel helwyr-gasglwyr- bysgotwyr ac roeddynt yn gwneud offer carreg mwy cymhleth yn cynnwys microlithau, neu adfachau ar gyfer hela a physgota.
Mae’r microlith o Burry Holms yn Gwreiddiau, yn anarferol, yn dangos olion o lud a ddefnyddiwyd i’w lynu at ei phaladr o bren neu asgwrn.







