Yr Archif Sain
Silindrau Ffonograff a gasglwyd gan y Fonesig Ruth Herbert Lewis
Gan na allai ysgrifennu hen nodiant na sol-ffa, dibynnai'r Fonesig Herbert Lewis yn drwm ar ei ffonograff Edison Standard i recordio'r caneuon. Dyfeisiwyd y cyntaf o'r peiriannau chwyldroadol hyn gan Thomas Edison yn 1877. Ymddangosodd y 'Standard' cludadwy yn 1898, a hwn oedd y model mwyaf poblogaidd am nifer o flynyddoedd. Er hynny, roedd ffonograffau yn bethau dieithr iawn i'r rhan fwyaf o boblogaeth wledig Cymru ac nid yw'n syndod deall bod sawl un o'r perfformwyr yn ofni canu i'r peiriant. Os medrid eu perswadio, byddent yn canu i drwmped y ffonograff, a fyddai'n cael ei ddal yn agos iawn i'r geg. Yn dilyn y recordio, byddai'r caneuon yn cael eu hadysgrifo gan gyfaill i'r Fonesig Herbert Lewis, y cerddor ifanc Morfudd Llwyn Owen, a fyddai'n aml yn eu perfformio mewn cyngherddau i'w chyfeiliant ei hun.
Rhestrir isod berfformwyr a theitlau y caneuon a drosglwyddwyd i gryno ddisg, fel y'u nodir ar y blychau silindr gwreiddiol.
- Jane Williams - i. Ffarwel i wlad; ii. O bachgen wyf (RealAudio 16.0Kbps)
- Jane Williams - ?
- Mr Roberts - Hela'r llwynog (RealAudio 16.0Kbps)
- R.Roberts, Smithy, Rhydyrarian - Cân llwynog
- Ifan Edwards, Nantglyn - Hen llanc (sic)?
- Miss Phillips, Castell Newydd Emlyn - Draw mi welodd
- Miss Phillips, Castell Newydd Emlyn - Cân yn nofio
- Mr George Nichols - Calls
- Rev. H.T. Jacob, Miss Harris; Rev. Symmonds - Y fwyalchen
- Male voice party - ?
- JHL (J.Herbert Lewis?) - Chanties (sic)
- ? - Mari Lwyd
[delwedd: Ffonograff Edison 'Standard', yn debyg i'r un a ddefnyddiwyd gan Ruth Herbert Lewis]
Ffonograff Edison 'Standard', yn debyg i'r un a ddefnyddiwyd gan Ruth Herbert Lewis