Adnoddau Ymchwil: Hanes Diwydiant Llechi Cymru
Oes gennych chi ddiddordeb yn hanes y diwydiant llechi?
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn unrhyw agwedd o hanes y diwydiant llechi yng Nghymru, ond ddim yn siŵr ble i ddechrau pori am wybodaeth, yna gall Amgueddfa Lechi Cymru fod o gymorth. Dyma restr gryno o’r ffynonellau sydd ar gael:
| Gwasanaeth Archifau Gwynedd (cangen Caernarfon), Swyddfa’r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH 01286 679095 archifau.caernarfon@gwynedd.gov.uk Yng nghangen Caernarfon lleolir hen ddogfennaeth Chwarel Dinorwig; Chwarel Dorothea; Chwarel Penrhyn; Chwarel Penyrorsedd; Chwarel Castell, Plasgwynant, Beddgelert; dogfennaeth parthed Streic Fawr y Penrhyn; casgliad o ddogfennau o eiddo W.J.Parry; casgliad Amgueddfa Chwareli Llechi Gogledd Cymru; a casgliad o ddogfennau Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. |
Adran Archifau a Llawysgrifau, Y Prif Lyfrgell, Prifysgol Cymru Bangor, Ffordd y Coleg, Bangor, Gwynedd. LL57 2DG 01248 382966 O fewn Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor lleolir Adran Archifau a Llawysgrifau. Yma ceir dau gasgliad o ddogfennau archifol sydd yn berthnasol i’r diwydiant llechi, sef casgliad Castell Penrhyn, a chasgliad Gohebiaeth Castell Penrhyn – Streic Chwarel.
|
Gwasanaeth Archifau Gwynedd (cangen Meirionnydd – wedi ei leoli’n Nolgellau) Yng nghangen Dolgellau lleolir hen ddogfennaeth Chwarel Llechwedd; Chwarel Oakeley; a Chwarel Foty a Bowydd. |
Swyddfa Ddogfennau Sir Benfro The Castle, Hwlffordd, Sir Benfro. SA61 2EF 01437 763707 Lleolir deunydd archifol sydd yn berthnasol i’r diwydiant llechi yn Ne Orllewin Cymru (yn benodol Sir Benfro) yn Swyddfa Ddogfennau Sir Benfro. |
| Archifdy Sir Ddinbych, 46 Heol Clwyd, Rhuthun, Sir Ddinbych. LL15 1HP 01824 708250 archifau@sirddinbych.gov.uk Am wybodaeth am chwareli llechi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru, dylid cysylltu gyda Archifdy Sir Ddinbych. |
Llyfrau
Un o’r ffynonellau mwyaf gwerthfawr i unrhyw un sydd ar drywydd gwybodaeth am unrhyw agwedd o hanes y diwydiant llechi yw llyfrau. Yn fras, gellir categoreiddio’r llyfrau sydd yn ymwneud a’r diwydiant llechi fel a ganlyn:
- hanes y diwydiant yn gyffredinol e.e. Lindsay, J. , A History of the North Wales Slate Industry , 1974 ;
- hanes chwareli penodol e.e. Carrington, D.C. , Delving in Dinorwig , 1994 ;
- daeareg y graig e.e. North, F.J. , The Slates of Wales , 1925 ;
- atgofion a myfyrion cyn-chwarelwyr a phobl oedd yn ymwneud a’r diwydiant e.e. Evans, J.D. , Myfyrion Hen Chwarelwyr , 1978 ;
- thrafnidiaeth oedd ynghlwm a’r diwydiant llechi e.e. Richards, A.J. , The Slate Regions of North and Mid Wales and their Railways , 1999 ;
- dangos ffotograffau o chwareli e.e. Napier, J. , Rhosydd – golwg bersonol , 1999 ;
Nofelau ffuglen sydd wedi eu gosod yn, neu wedi eu seilio ar, gymunedau chwarelyddol e.e. Hughes, T.R. , Chwalfa.
Traethodau Ymchwil
Ffynhonnell werthfawr o wybodaeth trylwyr am agweddau penodol o hanes y diwydiant llechi yw traethodau ymchwil a ysgrifennwyd gan awduron ar gyfer graddau MA, MPhil a PhD. Lleolir y traethodau ym mha bynnag Brifysgol yr oedd yr awdur yn fyfyriwr ar y pryd. Dyma ddetholiad:
- Davies, G. , Bethesda: the growth and development of a slate quarrying town, 1826-90 , Aberystwyth , 1985.
- Ellis, G. , A History of the Slate Quarrymen in Caernarvonshire in the Nineteenth Century , Bangor , 1931.
- Jones, B. , Geirfa’r Chwarel , Bangor , 1994.
- Jones, G.A. , Y Gymdeithas Chwarelyddol yng Ngwaith Kate Roberts a T.Rowland Hughes , Aberystwyth , 2000.
- Jones, G.P. , The economics and technological development of the slate quarrying industry in the Nantlle Valley, Gwynedd , Bangor , 1996.
- Jones, J.G. , The Social and Historical Geography of the Ffestiniog Slate Industry , Aberystwyth , 1959.
- Pritchard, D. , The Slate Industry of North Wales: a study of the changes in economic organisation from 1780 to the present day , Bangor , 1935.
- Richards, W.M. , A General Survey of the Slate Industry of Caernarvonshire and Meirionethshire , Lerpwl , 1933.
- Roberts, D. , The Slate Quarrying Communities of Caernarfonshire and Meirioneth, 1911-1939 , Aberystwyth , 1982.
- Sutherland, M.W. , ‘Angyles y Cartref’: Golwg ar fywyd Gwragedd yn ardaloedd chwareli llechi Sir Gaernarfon , Caerdydd , 1997.
Gwefannau
- http://www.amgueddfacymru.ac.uk/
Gwefan yn darparu gwybodaeth gyffredinol am Amgueddfa Lechi Cymru, yn ogystal a pheth manylion am gasgliad yr amgueddfa. - http://www.llechicymru.info/
Adnabyddir y wefan yma fel ‘Llechwefan’. Mae’n cynnwys gwybodaeth hanesyddol am y diwydiant llechi dan y penawdau ‘diwydiant, ’cymunedau’, ‘llechfaen’, a ‘celf’; yn ogystal a dros gant o ffotograffau archifol, a mynegai i wefannau perthnasol eraill. Lluniwyd y wefan drwy gymorth Gwasanaeth Archifau Gwynedd. - http://www.slatevalleymuseum.org
Gwybodaeth am amgueddfa lechi yng Ngogledd America. Mae’r wefan yn cynnwys ffotograffau o’r diwydiant yng Ngogledd America; gwybodaeth gyffredinol am yr amgueddfa; cyfweliadau gyda cyn chwarelwyr a ymfudodd o Gymru i Ogledd America; a rhestr o dros gant o dermau chwarelyddol a’u hystyron. - http://www.penmorfa.com/Slate
Gwefan yn cynnwys cyflwyniad cyffredinol i’r diwydiant llechi yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. Ffynhonnell werthfawr o ffotograffau cyfoes, yn portreadu adfeilion y diwydiant llechi yn mwyafrif o ardaloedd Gogledd Cymru. - http://www.welshslate.com/
Gwefan yn hysbysebu cynnyrch chwareli llechi cwmni Alfred McAlpine yng Nghymru ac yng Ngogledd America. - http://berwynslate.com/
Gwefan yn hysbysebu cynnyrch Chwarel Berwyn (Clogau) ger Llangollen. - http://www.wincilate.co.uk/
Gwefan yn hysbysebu cynnyrch cwmni Wincilate o chwarel Aberllefenni. - http://www.honister-slate-mine.co.uk/pages/home.htm
Gwefan yn hysbysebu yr atyniad ymwelwyr yn Ardal y Llynnoedd, Lloegr, ond hefyd yn cynnwys erthyglau am hanes y chwarel lechi yn Honister. - http://www.gtj.org.uk/cy/index
Gwefan yn cynnwys dros 20,000 o ddelweddau o wrthrychau o amgueddfeydd, llyfrgelloedd a archifau yng Nghymru. Delweddau perthnasol i’r diwydiant llechi yn cael eu arddangos dan y thema diwydiant. - http://www.jgd.org.uk/rotwsi/rotwsimenu.html/
Gwefan yn cynnwys ffotograffau o adfeilion chwareli yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. - http://www.erih.net/
Gwefan yr ‘European Route of Industrial Heritage’ – rhwydwaith sydd yn cysylltu safleoedd diwydiannol pwysicaf Ewrop. - http://www.welshstonecentre.com/
Gwefan yn enwi y chwareli llechi sydd yn gweithredu yng Nghymru heddiw.
Amgueddfeydd ac atyniadau ymwelwyr
Mae amrywiaeth eang o amgueddfeydd ac atyniadau ymwelwyr ar hyd a lled Cymru sydd yn gysylltiedig a’r diwydiant llechi. Drwy ymweld a rhain gallwch gael profiad byw a dealltwriaeth trylwyr o hanes diwydiannol a chymdeithasol y diwydiant llechi.
| Amgueddfa Lechi Cymru | Sain Ffagan : Amgueddfa Werin Cymru | Amgueddfa Genedlaethol y Glannau |
| Rheilffordd Corris Station Yard, Corris, Machynlleth. SY20 9SH http://www.corris.co.uk/ |
Inigo Jones a Co Ltd Tudor Slate Works, Y Groeslon, Caernarfon, Gwynedd. LL54 7UE 01286 830242 info@inigojones.co.uk http://inigojones.co.uk |
Llechwedd Slate Caverns Blaenau Ffestiniog, Gwynedd. LL41 3NB 01766 830306 info@llechwedd-slate-caverns.co.uk http://www.llechwedd-slate-caverns.co.uk |
| Llanfair Slate Caverns Llanfair, Harlech. 01766 780247 caverns@llanfairslatecaverns.co.uk http://llanfairslatecaverns.co.uk/ |
Amgueddfa’r Môr, Caernarfon Victoria Dock, Caernarfon, Gwynedd. 01248 752083 |
Amgueddfa’r Môr, Porthmadog Oakley Wharf No 1, The Harbour, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9LU 01766 513736 |
| Rheilffordd Llyn Padarn Gilfach Ddu, Llanberis, Gwynedd. LL55 4TY 01286 870549 info@lake-railway.co.uk |
Rheilffordd Ffestiniog Harbour Station, Porthmadog, Gwynedd. LL49 9NF 01766 516024 enquiries@festrail.co.uk |
Tal y Llyn Railway Company Wharf Station, Tywyn, Gwynedd. LL36 9EY 01654 710472 http://www.talyllyn.co.uk |
| Rheilffordd Ucheldir Cymru | http://www.ngrm.org.uk
gwefan yr amgueddfa reilffordd |
Castell Penrhyn Bangor, Gwynedd, LL57 4HN penrhyncastle@nationaltrust.org.uk |
| Cae’r Gors, Rhosgadfan
Lleolir Cae’r Gors, cartref y nofelydd Dr Kate Roberts, yn Rhosgadfan. Llwyddodd Cyfeillion Cae’r Gors i ennill grant gan Gronfa Treftadaeth y Loteri ar gyfer adfer y tyddyn a chreu canolfan ddehongli fychan. Dechreuodd y gwaith o adfer Cae’r Gors ym mis Ionawr 2006. |
Cartref T.Rowland Hughes
Lleolir cartref T.Rowland Hughes ym mhentref Llanberis. Gellir trefnu i ymweld a’r cartref drwy gysylltu gyda Clerc Cyngor Cymuned Llanberis. |
|
| Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Plas Crug Aberystwyth Ceredigion SY23 1NJ Ffôn (01970) 621200 chc.cymru@cbhc.gov.uk www.cbhc.gov.uk |