Adnoddau Ymchwil: Diwydiannau Metel Cymru
Oes gennych chi ddiddordeb yn hanes y diwydiannau haearn, dur, tunplat, mwyndoddi anfferrus, neu fwyngloddio metel?
Mae’r rhan fwyaf o’r ymholiadau sy’n dod atom ni’n ymrannu’n dri phrif gategori:-
- Ceisiadau am wybodaeth am hanes gwahanol weithfeydd mwyndoddi anfferrus, haearn, dur a thunplat, yn ogystal â mwyngloddiau copr, haearn, plwm, sinc, arian ac aur, a’r cwmnïau oedd yn berchen arnynt.
- Ceisiadau am wybodaeth am y peiriannau a’r prosesau, fel ffwrneisi chwyth, pwdlo haearn gyr, y trawsnewidydd Bessemer a phrosesu mwyn plwm.
- Ceisiadau am wybodaeth am gofnodion cyflogaeth cyndeidiau.
Cyhoeddwyd nifer o lyfrau sy’n disgrifio gweithfeydd a phrosesau metel yn ystod y 150 mlynedd diwethaf. Mae rhai ohonynt yn dechnegol iawn ac eraill yn hawdd eu deall. Gallwn roi cyngor am y rhai a fydd yn addas at eich anghenion chi.
Mae ein casgliad ffotograffau’n cynnwys delweddau o nifer o weithiau a phrosesau metel Cymru, yn ogystal â detholiad da o’r mwyngloddiau metel. Wrth gwrs, mae mwy o ddelweddau o’r gweithfeydd a’r mwyngloddiau mawr na’r rhai bach, ac mae’r casgliad yn cynnwys llawer mwy o ddelweddau o’r diwydiannau haearn, dur a thunplat na’r diwydiannau mwyndoddi anfferrus.
Mae dewis da o lyfrau ar hanes metelau Prydain yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif yn ein llyfrgell, yn enwedig ein treftadaeth metel yng Nghymru.
Ond nid peth mor syml yw ymchwilio i hanes cyndeidiau yn y diwydiannau metel! Nid oes unrhyw gofnodion cyflogaeth gan yr amgueddfa – y storfeydd a’r archifdai isod sy’n cadw’r ychydig gofnodion sydd ar ôl o’r cyfnod cyn yr Ail Ryfel Byd. Y cwmnïau eu hunain sy’n cadw cofnodion cyflogaeth o’r cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ond nid oes hawl gan haneswyr teuluol eu defnyddio oherwydd eu natur gyfrinachol.
Os hoffech chi drafod unrhyw elfen o hyn, ffoniwch Robert Protheroe Jones ar (029) 2057 3630 neu e-bostiwch robert.protheroejones@amgueddfacymru.ac.uk
Dyma rai o’r storfeydd pwysicaf ar gyfer ymchwilwyr hanes metel:
1) Archifdai sirol Cymru ac archifau cofrestredig eraill
Archifdai sirol Cymru ac archifau cofrestredig eraill yw’r man cychwyn gorau am mai dyma lle cedwir y rhan fwyaf o’r dogfennau sy’n ymwneud â’r gweithfeydd, y cwmnïau a’r manylion cyflogaeth. Gellir olrhain hanes gweithfeydd, a’r mwyngloddiau’n arbennig, drwy edrych ar gofnodion yr ystadau lle cawsant eu hadeiladu. Yr archifdai sirol sy’n cadw’r rhain gan amlaf. Maent hefyd yn cadw copïau o ganlyniadau cyfrifiadau’r blynyddoedd rhwng 1841 a 1901 – sy’n amhrisiadwy wrth olrhain cyndeidiau oedd yn gweithio yn y diwydiant – yn ogystal â ffynonellau pwysig eraill ar gyfer haneswyr teuluol:
| Archifdy Ynys Môn Neuadd y Dref Llangefni Ynys Môn LL77 7TW Ffôn (01248) 752562 archifdy@ynysmon.gov.uk |
Adran Llawysgrifau Y Prif Lyfrgell Prifysgol Cymru Bangor Ffordd y Coleg, Bangor Gwynedd, LL57 2DG Ffôn (01248) 382966 issc04@bangor.ac.uk |
Archifdy Caernarfon Swyddfeydd Sirol y Gwasanaeth Archifau ac Amgueddfeydd Caernarfon LL55 1SH. Ffôn (01286) 679088/679095 Ffacs (01286) 679637 archifau.caernarfon@gwynedd.gov.uk |
| Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin Parc Myrddin Waun Dew Caerfyrddin, SA31 1DS Ffôn (01267) 228232 Ffacs (01267) 228237 archifau@sirgar.gov.uk |
Archifdy Ceredigion Swyddfa’r Sir Glan-y-Môr Aberystwyth SY23 2DE Ffôn (01970) 633697/8 archives@ceredigion.gov.uk |
Gwasanaeth Archifau Conwy Yr Hen Ysgol Fwrdd Ffordd Lloyd Llandudno Conwy LL30 2YG Ffôn (01492) 860882 archifau.archives@conwy.gov.uk |
| Archifdy Sir Ddinbych 46 Heol Clwyd Ruthun LL15 1HP Ffôn (01824) 708250 Ffacs (01824) 708258 archifau@sirddinbych.gov.uk |
Archifdy Sir y Fflint Yr Hen Reithordy Penarlâg CH5 3NR Ffôn (01244) 532364 Ffacs (01244) 538344 archives@flintshire.gov.uk |
Archifdy Morgannwg Adeilad Morgannwg Clos Parc Morgannwg Leckwith Caerdydd, CF11 8AW Ffôn (029) 2087 2200 GlamRO@cardiff.ac.uk |
| Archifdy Gwent, Neuadd y Sir, Cwmbrân, NP44 2XH. Ffôn (01633) 644886 Ffacs (01633) 648382 gwent.records@torfaen.gov.uk |
Archifdy Sir Feirionnydd, Cae Penarlâg Dolgellau Gwynedd, LL40 2YB Ffôn (01341) 424443 Ffacs (01341) 424505 archifau.dolgellau@gwynedd.gov.uk |
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Aberystwyth Ceredigion SY23 3BU Ffôn (01970) 632800 Ffacs (01970) 615709 holi@llgc.org.uk |
| Archifdy Sir Benfro, Y Castell Hwlffordd SA61 2EF Ffôn (01437) 763707 Ffacs (01437) 768539 |
Swyddfa Archifau Powys Neuadd y Sir Llandrindod, LD1 5LG Ffôn (01597) 826088 Ffacs (01597) 826872 archives@powys.gov.uk |
Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth
| Prifysgol Cymru Abertawe Parc Singleton Abertawe SA2 8PP Ffôn (01792) 295021 archives@swan.ac.uk |
Gwasanaeth Archif Gorllewin Morgannwg Neuadd y Sir Heol Ystumllwynarth Abertawe, SA1 3SN Ffôn (01792) 636589 Ffacs (01792) 636340 westglam.archives@swansea.gov.uk |
Canolfan Astudiaethau Lleol ac Archifau A.N. Palmer Amgueddfa Wrecsam Regent Street Wrecsam LL11 1RB Ffôn (01978) 317973 Ffacs (01978) 317982 |
2) Dogfennau cofrestru cwmnïau cyfyngedig
Cedwir dogfennau cwmnïau cyfyngedig yn Nhŷ’r Cwmnïau; cedwir dogfennau cofrestru cwmnïau cyfyngedig sydd wedi darfod yn Archifdy Cenedlaethol Prydain.
| Tŷ’r Cwmnïau Ffordd y Goron Y Maendy Caerdydd, CF14 3UZ Ffôn (0870) 333 3636 enquiries@companies-house.gov.uk www.companieshouse.gov.uk |
Archifdy Cenedlaethol Prydain Kew Richmond Surrey TW9 4DU Ffôn (020) 8876 3444 www.nationalarchives.gov.uk |
3) Gwybodaeth am archeoleg ddiwydiannol gweithfeydd a safleoedd mwyngloddio:
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru ac ymddiriedolaethau archeoleg sirol sy’n cadw’r wybodaeth yma. Mae Cadw: Henebion Cymru’n gyfrifol am restru henebion a safleoedd hynafol:
| Cadw Plas Carew Uned 5/7 Cefn Coed Parc Nantgarw Caerdydd, CF15 7QQ Ffôn (01443) 336000 Ffacs (01443) 336001 cadw@cymru.gsi.gov.uk www.cadw.gov.uk |
Archeoleg Cambria [Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro] Neuadd y Sir Stryd Caerfyrddin Llandeilo Sir Gaerfyrddin, SA19 6AF Ffôn (01558) 823131 cambria@acadat.com www.acadat.com |
Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys 7a Stryd yr Eglwys Trallwng Powys SY21 7DL Ffôn (01938) 553670 Ffacs (01938) 552179 trust@cpat.org.uk www.cpat.org.uk |
| Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent Tŷ Heathfield Heathfield Abertawe SA1 6EL Ffôn (01792) 655208 Ffacs (01792) 474469 www.ggat.org.uk |
Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd Craig Beuno Heol y Garth Bangor Gwynedd, LL57 2RT Ffôn (01248) 352535 gat@heneb.co.uk www.heneb.co.uk |
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Plas Crug Aberystwyth Ceredigion SY23 1NJ Ffôn (01970) 621200 chc.cymru@cbhc.gov.uk www.cbhc.gov.uk |








