Adnoddau Ymchwil: Meysydd Glo Cymru
Diddordeb yn hanes meysydd glo Cymru?
Mae’r rhestr o ffynonellau deunydd ar ddiwydiant glo Cymru’n helaeth ac yn amrywiol. Rydyn ni’n derbyn ymholiadau ar bob math o bethau, o wybodaeth am byllau glo unigol i gyndeidiau oedd yn lowyr. Nod y daflen hon yw rhestru rhai o’r ffynonellau gwybodaeth mwyaf defnyddiol.
Cofnodion cwmnïau
Cyn gwladoli’r diwydiant glo ym 1947, roedd y pyllau glo dan berchnogaeth breifat. O Ionawr 1947 ymlaen, bu’r diwydiant yn masnachu o dan enw’r Bwrdd Glo Cenedlaethol, tan 1986 pan ddaeth dan ofal Glo Prydain. Cyflwynwyd llawer o gofnodion y cyrff hyn mewn archifdai lleol a cheir rhestr o gyfeiriadau defnyddiol yn nes ymlaen.
Ffotograffau Hanesyddol
Mae gan Amgueddfa Genedlaethol y Glannau nifer fawr o ffotograffau sy’n gysylltiedig â’r diwydiant glo, ond mae gan lawer o amgueddfeydd glofaol ac archifdai gasgliadau hefyd.
Y llyfrgell
Mae’r cyfrolau defnyddiol canlynol ar gael yn llyfrgell yr amgueddfa:
- The Colliery Year Book and Trades Directory: Fe’i cyhoeddwyd gyntaf ym 1922 ac fe’i cyhoeddwyd bob blwyddyn wedyn tan 1964 pan ddaeth yn gyfeirlyfr ar gyfer y fasnach dosbarthu glo. Roedd yn rhestru’r holl byllau glo oedd yn cynhyrchu, eu lleoliad, nifer y gweithwyr a’r talcenni glo oedd yn cael eu cloddio.
- Guide to the Coalfields a gyhoeddwyd yn flynyddol gan y Colliery Guardian. Yn ogystal â’r sefydliad cenedlaethol a’r diwydiannau ategol, mae’n eu rhannu’n adrannau yn ôl ardaloedd gweinyddol yr NCB neu Glo Prydain. Mae darn bychan ar byllau bach trwyddedig hefyd.
- Adroddiadau Blynyddol Adrannol Arolygwyr Pyllau Ei Mawrhydi yn ogystal ag adroddiadau unigol ar ddamweiniau difrifol yn y pyllau.
DS Nid oes gan y llyfrgell gyfresi llawn o’r cyfrolau uchod, ond cysylltwch â’r Amgueddfa i holi am fanylion llawnach.
Yn ogystal, mae dewis eang o weithiau technegol a llyfrau ar hanes meysydd glo Cymru ar gael.
Archifdai perthnasol i faes glo Cymru
| Gwasanaeth Archifau Sir Gaerfyrddin Parc Myrddin Waun Dew Caerfyrddin SA31 3DS 01267 228232 www.sirgar.gov.uk |
Archifdy Sir y Fflint Yr Hen Reithordy Penarlâg Sir y Fflint LL15 1HP 01224 532364 www.siryfflint.gov.uk |
Archifdy Morgannwg Adeilad Morgannwg Parc Cathays Caerdydd CF1 3NE 029 2078 0282 www.glamro.gov.uk |
| Gwent Archives [Formerly Gwent Record Office] Steelworks Road EBBW VALE Blaenau Gwent NP23 6DN 01495 353363 gwentarchives.gov.uk |
Archifdy Sir Benfro Y Castell Hwlffordd Sir Benfro, SA 01437 763707 record.office@pembrokeshire.gov.uk |
Gwasanaeth Archif Gorllewin Morgannwg Neuadd y Sir Heol Ystumllwynarth, Abertawe, SA1 3SN 01792 636589 www.abertawe.gov.uk/archifau |
|
Llyfrgell Genedlaethol Cymru |
Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru Plas Crug Aberystwyth Ceredigion SY23 1NJ Ffôn (01970) 621200 chc.cymru@cbhc.gov.uk www.cbhc.gov.uk |








