Archifau
[delwedd: Y Fonesig Ruth Herbert Lewis]
Y Fonesig Ruth Herbert Lewis
Yn 1969 rhoddwyd casgliad o dri deg un silindr ffonograff wedi'u defnyddio gan y Fonesig Ruth Herbert Lewis (1872-1946), aelod blaenllaw o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru, i Amgueddfa Werin Cymru gan ei merch, Kitty Idwal Jones. Cynhwysent ddetholiad o eitemau cerddorol a recordiwyd o amgylch siroedd y Fflint, Dinbych a Cheredigion rhwng 1910 ac 1913. Cadwyd y silindrau cwyr bregus hyn mewn stôr ers hynny, a'u hystyried yn rhy hen i'w chwarae eto, ond diolch i dechnoleg gyfoes llwyddwyd yn ddiweddar i adennill cyfran sylweddol o'r deunydd. Trosglwyddwyd deuddeg trac i gryno ddisg ac, er fod seiniau crafu parhaol yn amharu ar yr ansawdd cyffredinol, mae'r gallu i glywed lleisiau a recordiwyd rhyw naw deg mlynedd yn ôl yn hynod o gyffrous.
Un o arloeswyr casglu caneuon gwerin yng Nghymru oedd y Fonesig Ruth Herbert Lewis a gyfranodd yn sylweddol tuag at ddiogelu traddodiad cerddorol cyfoethog y wlad. Wedi ei geni yn Lerpwl, symudodd i Blas Penucha, Caerwys, Sir Fflint, yn 1897, ar ôl priodi â'r aelod seneddol Syr J. Herbert Lewis ac yn ymddiddorodd yn eiddgar yn niwylliant y Cymry. Daeth yn gefnogwr brwd o holl sefydliadau treftadol ac ysgolheigaidd Cymru, yn arbennig trwy ymuno â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru ac yn y pen draw ymgymryd â'r swydd o ysgrifenyddes a llywydd y gymdeithas honno. Gwnaeth y rhan fwyaf o'i gwaith casglu ym mlynyddoedd cynnar ei haelodaeth.
[delwedd: Taith gasglu caneuon ger Llandysul]
Taith gasglu caneuon ger Llandysul, Sir Gaerfyrddin, yn 1913. Credir i'r llun gael ei dynnu gan Ruth Herbert Lewis
Teithiai y Fonesig Herbert Lewis ar gart a cheffyl i recordio caneuon gwerin. Ei phrif ffynhonnell gwybodaeth, heb os nac onibai, oedd Mrs Jane Williams o Dreffynnon, a gofiodd dros ddwsin o ganeuon yn Gymraeg a Saesneg. Roedd Jane Williams yn byw yn wyrcws Treffynnon lle gwelwyd, yn ôl Kitty Idwal Jones, 'nifer o hen wragedd yn eistedd o gwmpas stôf fawr ddu ynghanol ward a honno'n ddigon llwm; eraill yn gorwedd yn eu gwelyau, mewn rhesi hir - heb ddim i'w wneud'. Roedd Jane Williams fel petai'n ymhyfrydu yn y cyfle i dorri ar yr undonedd hwn. Eisteddai'n aros 'yn ei chap a ffedog wen, yn barod iawn i fynd i lawr i ystafell y "meistr" i ganu i mewn i'r ffonograff. Roedd ei llais yn hynod o glir o gofio ei bod yn naw deg oed.' Bu Jane Williams yn ysbrydoliaeth fawr i'r Fonesig Herbert Lewis a chyflwynodd ei chyfrol Alawon Gwerin Sir Fflint (1914) i'r hen wraig 'whose store of songs convinced me that a collection could be made within easy distance of my home.' Yn barnu wrth ragymadrodd y llyfr, câi'r Fonesig bleser eithriadol o'r gwaith casglu. Daeth y cantorion yn ffrindiau agos iddi wrth iddi eu recordio'n perfformio'r caneuon a ddysgwyd ganddynt yn blant.