Archifau yn Adran Archeoleg a Niwmismateg Amgueddfa Cymru
Mae gan Adran Archeoleg a Niwmismateg Amgueddfa Cymru gasgliadau ymchwil ac archif sy'n rhychwantu canrif a mwy.
Mae'r rhain yn cynnwys:
- Archifau cloddio;
- Ffotograffau a darluniadau sy'n gysylltiedig â gwrthrychau a chloddiadau;
- Casgliad o rwbiadau pres a maen o'r Canol Oesoedd;
- Archif busnes adrannol.
Gallwch wneud ceisiadau ffotograffig am ymchwil bersonol/academaidd o hyd drwy Llyfrgell Lluniau Amgueddfa Cymru.
Unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Shanon Deal, Swyddog Gweinyddu Cofnodion, Adran Archeoleg a Niwmismateg.







