Eglwys Sant Teilo

Sant Teilo

Enwyd yr eglwys, a phlwyf Llandeilo Tal-y-bont ar ôl Teilo, un o seintiau cynnar Cymru. Yn ôl traddodiad, ganwyd Teilo, neu Elios fel y'i gelwid weithiau, tua 480 AD yn Gumfreston neu Penally, yn ne Sir Benfro. Addysgwyd ef gan Paulinus yn Nhŷ Gwyn ble y bu iddo gyfarfod â Dewi Sant. Bu'r ddau yn gyfeillion wedi hynny. Aeth y ddau ar bererindod i Jerwsalem ac ymunodd Padarn â hwy ar y daith.

Sant Teilo fel y'i darlunir mewn ffenestr eglwys o'r 15fed ganrif yn Plogonnec yn Llydaw

Wedi iddynt ddychwelyd, penodwyd Teilo i reoli Eglwys Llandaf a'r cylch. Yn fuan wedi hyn, lledaenodd y clefyd melyn ac arweiniodd Teilo ei bobl i Gernyw i'w osgoi. O Gernyw, aethant i Lydaw ac fe'u croesawyd gan Archesgob Solomon o Eglwys Dol. Bu iddynt aros yn Llydaw am saith mlynedd. Tra yno, dywedid bod Teilo a'i ddilynwyr wedi plannu tair milltir o goed ffrwythau. Dychwelodd i Landaf wedi hyn, ble y bu'n Weinidog am sawl blwyddyn. Bu farw yn 566 AD.

Mae llawer o eglwysi yn ne Cymru a Llydaw wedi eu cysegru i Teilo. Cafodd ei bortreadu ar ffenestr liw o'r 15fed ganrif mewn eglwys yn Plogonnec, Finistere, ac mewn cerflun yng Nghapel y Forwyn Fair, Kerdevot. Yn y ddau bortread, mae'n gwisgo gwn esgob a meitr tra'n eistedd ar ben carw. Awgryma hyn fod ganddo gydnawsedd â'r byd naturiol. Nawddsant ceffylau a choed ffrwythau yw Sant Teilo, ac fe ddethlir diwrnod Sant Teilo ar 9 Chwefror.

Gwybodaeth

Map

Sain Ffagan, Caerdydd
Ar agor 10am-5pm bob dydd

Ffôn:
(029) 20573500
Parcio ceir: £3.50 y car y dydd. Nodwch bod yna beiriant arian ar y safle.

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd (yn gynnwys oriau agor dros y Nadolig)

digwyddiadau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.