Artistiaid Cymreig y ddeunawfed ganrif - National Museum Cardiff
Ychydig oedd gan Gymru i’w gynnig i gyw-artistiaid ifanc yn y ddeunawfed ganrif. Doedd dim ysgolion celf, dim mannau arddangos ac ychydig iawn o noddwyr.
Yn gyferbyniol, roedd Llundain yn llawn cyfleoedd. Denodd y ddinas nifer o Gymry addysgiedig oedd yn benderfynol o ddilyn gyrfa fel arlunwyr.
Mae’r oriel yma’n cyflwyno gwaith grˆwp o artistiaid Cymreig o’r ddeunawfed ganrif a hyfforddwyd yn Llundain a’r Eidal ac a weithiodd yno, ond heb ynysu eu hunain yn llwyr oddi wrth eu mamwlad. Roeddynt yn ymhel â bywyd diwylliannol Cymru naill ai yn eu bywyd personol neu broffesiynol, yn aml â chefnogaeth gwladgarol ambell i noddwr Cymreig.
Roedd hyn yn amser o gyffro cynnyddol ynglyn â Chymru, a sbardunwyd gan y darganfyddiad bod y Cymry’n ddisgynyddion o’r hen Geltiaid.
Ymhyfrydodd deallusion Prydain yn iaith, llenyddiaeth a gorffennol derwyddol Cymru, a gwnaed ymgais i feithrin hunaniaeth.
Adfywiwyd yr Eisteddfod, a sefydlwyd grwpiau fel Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion i warchod y syniad o arwahanrwydd diwylliannol.
Yn ysbryd yr Adfywiad Celtaidd hwn rhoddwyd mwy o bwyslais ar fynegi hunaniaeth genedlaethol drwy gerddoriaeth, llenyddiaeth a’r celfyddydau gweledol. Daeth rhai o’r delweddau a grëwyd yn y cyfnod hwn yn eiconau cenedlaetholgar mewn cyfnodau diweddarach, fel Y Bardd gan Thomas Jones.
[delwedd: Y Bardd, Thomas Jones]
JONES, Thomas (1742 - 1803)
The Bard
1774
oil on canvas
purchased, 1965
NMW A 85
[delwedd: MENGS, Anton Raphael (1728 - 1779), Richard Wilson ]
MENGS, Anton Raphael (1728 - 1779)
Richard Wilson (1713-1782)
c. 1752
oil on canvas
purchased with the assistance of the Art Fund, 1947
NMW A 113
[delwedd: Map oriel 9]
Lleoliad:
Oriel 9Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd