Uchafbwyntiau - Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Oriau Agor y Gaeaf 2012
Mae Castell Sain Ffagan ar gau tan y gwanwyn oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol ond mae gweddill yr Amgueddfa ar agor fel arfer. Bydd Ystafell De Gwalia ar gau tan wyliau hanner tymor yr ysgolion ym mis Chwefror ond mae Cafe Bardi a Bwyty'r Fro ar agor. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.




Taith o amgylch Cymru - o'r cyfnod Celtaidd hyd heddiw. Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.
Agorwyd Sain Ffagan i'r cyhoedd am y tro cyntaf oll ar 1 Gorffennaf 1948. Saif ynghanol gerddi godidog Castell Sain Ffagan, y plasty hardd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gyflwynwyd fel rhodd i'r genedl gan Iarll Plymouth.
Yn ystod yr hanner canrif ddiwethaf ailgodwyd dros 40 o adeiladau gwreiddiol o wahanol gyfnodau hanesyddol ar y parcdir 100 erw. Ymysg yr adeiladau mai tai, ffermdy, ysgol, capel a Sefydliad Gweithwyr ysblennydd.
Crefftau a gweithgareddau traddodiadol sy'n bywiocáu Sain Ffagan. Yn rhai o'r adeiladau mae crefftwyr wrth eu gwaith yn arfer eu crefftau traddodiadol. Yn aml mae modd prynu eu cynnyrch. Darllenwch fwy o straeon am ein casgliadau ar ein gwefan Rhagor.
Gellir gweld bridiau cynhenid o anifeiliaid a ffowls yng nghaeau a buarthau’r ffermydd, lle ceir hefyd arddangosiadau dyddiol o dasgau ffermio. Gall ymwelwyr gael cipolwg ar dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Cymru, a gellir clywed Cymraeg yn cael ei siarad yn ddyddiol ymhlith y crefftwyr a’r dehonglwyr.
Mae gennym hefyd orielau sy’n arddangos gwisgoedd, bywyd beunyddiol ac offer amaethyddol. Cynhelir arddangosiadau arbennig yn rheolaidd. Mae’r orielau bellach yn cynnwys gofod cyffrous a blaengar Oriel 1 gydag arddangosfeydd newidiol yn ymchwilio i fywyd a hunaniaeth yng Nghymru heddiw.
Gydol y flwyddyn, daw Sain Ffagan yn fyw – yn llythrennol – wrth i ni ddathlu gwyliau traddodiadol a digwyddiadau cerddoriaeth a dawns.
Mae Sain Ffagan yn archwilio pob agwedd o’r ffordd yr oedd pobl Cymru’n byw, gweithio ac yn hamddena. Fel cenedlaethau o ymwelwyr o’ch blaen, byddwch yn cael eich ysbrydoli gan ein dathliad o draddodiadau a ffyrdd o fyw Cymreig.
Mae'r Amgueddfa yn y deg uchaf o restr atyniadau rhad ac am ddim y DU yn ôl pleidlais defnyddwyr TripAdvisor, gwefan adolygu teithiau mwyaf y byd.








