Gwreiddiau – Canfod y Gymru gynnar Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Mur penglogau Gwreiddiau

Mae’r oriel Archeoleg Gwreiddiau: Canfod y Gymru Gynnar yn olrhain bywyd yng Nghymru ers y bobl gynharaf 230,000 o flynyddoedd yn ôl.

Pwy oedd ein cyndeidiau, a pha mor wahanol oedden nhw i ni? Beth sydd wedi newid a beth achosodd y newidiadau hyn?

Dilynwch ddyfodiad yr homininau (bodau dynol) yn Hen Oes y Cerrig hyd at ganol y Canol Oesoedd.

Gwreiddiau

Mae’r oriel yn cwmpasu goresgyniad a choncwest y Rhufeiniaid hyd at y 1500au, ac mae’n cynnwys gwrthrychau anhygoel a waredwyd, a gollwyd neu a aberthwyd ar hyd y ffordd.

Mae Gwreiddiau’n cynnwys y gweddillion dynol cynharaf ym Mhrydain ac eurwaith trawiadol o’r Oes Efydd , ac mae’n ein helpu wrth archwilio gwrthdaro, grym, cyfoeth, teuluoedd a’r dyfodol - themâu y mae pobl wedi myfyrio yn eu cylch drwy’r oesoedd.


Mae’r straeon y tu ôl i’r gwrthrychau’n rhoi cipolwg o’r amseroedd pellennig hyn, a dealltwriaeth ddyfnach o’n gwreiddiau.

Gwreiddiau

Mae rhai gwrthrychau’n brydferth dros ben, a gwnaed y mwyafrif ohonynt â llaw. Mae llawer ohonynt yn cynnig tystiolaeth ffisegol o’r grymoedd sydd wedi newid bywyd a’r dirwedd ers ymddangosiad y bobl gynharaf.

Bydd rhai’n gyffredin, eraill yn anghyffredin.Maent yn ein helpu i ddeall pwy ydyn ni.

Gwrandewch ar podcast (yn saesneg yn unig) yn cyflwyno'r arddangosfa Gwreiddiau, neu ymweld â'n tudalennau Digwyddiadau i fanylion am Teithiau tywys o'r oriel.

Defnyddiwch y dolenni isod am olwg o’r hyn sy’n eich disgwyl ym mhob un o gyfnodau Gwreiddiau:

Gwreiddiau

Gwybodaeth

Map

Parc Cathays, Caerdydd
Ar agor 10am–5pm Mawrth–Sul (Orielau yn cau am 4:45pm)

Ffôn:
(029) 2057 3000

Switsfwrdd (cost galw safonol): 0300 111 2 333

Sylwer: o 3 Mehefin, bydd y tâl am barcio yn £5.

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.