Uchafbwyntiau - Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd



Amrywiaeth hynod o drysorau — dewch i gael eich dallu! Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!
Er nad dyma’r hynaf o adeiladau Amgueddfa Cymru, dyma leoliad cyntaf Amgueddfa Genedlaethol Cymru, a agorwyd yn swyddogol ym 1927.
Mae yng nghanol canolfan ddinesig syber Caerdydd. Heddiw, mae’n gartref i gasgliadau cenedlaethol Cymru o archeoleg, celf, daeareg a hanes natur.
Dewch i ddarganfod cyfrinachau'n cyndeidiau o Neanderthaliaid chwarter miliwn o flynyddoedd yn ôl yn yr oriel archeoleg, Gwreiddiau: canfod y Gymru gynnar. Mae pethau pob dydd a thlysau addurnol yn adrodd straeon am bobl Cymru ac yn edrych ar ein cysylltiadau â'r gorffennol.
Mae'r casgliad celf yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ymhlith y gorau yn Ewrop. Gwelwch 500 mlynedd o beintiadau, darluniau, cerfluniau, arian a serameg o Gymru a'r byd, gan gynnwys un o gasgliadau gorau Ewrop o weithiau'r Argraffiadwyr.
Dilynwch daith hynod yn Esblygiad Cymru o ddechrau amser hyd heddiw. Mae'r stori'n dechrau yn y gofod gyda'r Glec Fawr cyn mynd â chi ar daith dros 4,600 miliwn o flynyddoedd i ddod wyneb yn wyneb â deinosoriaid a mamothiaid gwlanog. Darganfyddwch sut esblygodd bywyd yng Nghymru a pha ddeinosoriaid oedd yn crwydro'r tir.
Darganfyddwch Hanes Natur amrywiol Cymru ar daith o lan y môr i'r mynyddoedd. Gwelwch rhai o'r amgylcheddau unigryw sy'n golygu bod Cymru'n gartref i dros 900 o safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig.
Mae’r Canolfan Ddarganfod Clore yn rhoi cyfle i chi weld a chyffwrdd gwrthrychau’r Amgueddfa, o bryfed i ffosilau ac arfau’r Oes Efydd, a mynd i'r afael â rhai o'r 7.5 miliwn o eitemau sydd fel arfer wedi eu cuddio yn ein storfeydd.








