Y Broses Ymgynghori ar Arddangos Celf
Rhwng Chwefror a Mai 2001, dechreuodd Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru ar ymarferiad a nodwyd yng Nghynllun Corfforaethol yr Amgueddfa ar gyfer 2000/2001:
"I gynnal ymarferiad ymgynghorol ar arddangos Celfyddyd Gain a Chymhwysol yn y dyfodol gyda'r bwriad o ymgyrraedd at welediad ehangach i'r gweithiau (1) a ysbrydolwyd gan Gymru a (2) o'r cyfnod wedi 1945".
Yr elfen gyntaf yn yr ymgynghoriad hwn oedd pum cyfarfod gydag ystod eang o bobl. Cynhaliwyd tri ohonynt gyda arlunwyr, curaduron, gweithwyr amgueddfeydd proffesiynol ac eraill oedd yn ymhel â materion diwylliannol. Roedd dau yn ymwneud ag archeoleg a'r gwyddorau naturiol.
Gwahoddwyd cyfranwyr o rychwant eang o sefydliadau ar draws Prydain ac Iwerddon, a ddygodd i'w canlyn enghreifftiau eang o'r ffordd yr oedd pynciau tebyg wedi cael eu hwynebu yn y gwledydd eraill hyn. Cyfrannodd y rheini o feysydd celfyddyd a threftadaeth Gymreig olygweddau eang sydd wedi helpu i bennu telerau a ffiniau y drafodaeth.
Cyflwynwyd a chadeiriwyd pob un o'r cyfarfodydd gan David Clarke o ymgynghorwyr DCA. Bu staff AOCC ym mhob cyfarfod - yn bennaf i wrando ar y drafodaeth ac i roi sylwadau ffeithiol byr.
Daeth y Drafodaeth Gyhoeddus ar 17 Mai a fynychwyd gan dros 140 o bobl â'r cyfarfodydd cam cyntaf i ben.
Rydym yn awr yn ehangu cam cyntaf y broses ymgynghorol drwy roi'r themâu a'r pynciau sydd wedi dod i'r wyneb ar gael fel bod cynifer ag sy'n bosib yn gallu ymateb.
Mae hon yn broses fyw a chyfredol, a bydd yn datblygu dros y misoedd nesaf.
Mae crynodeb llawn o'r broses ymgynghori ynghyd â thrafodion y Drafodaeth Gyhoeddus ar gael ar y wefan hon.
Os carech wneud cyfraniad i'r broses ymgynghorol drwy gynnig eich barn ar y pynciau sy'n ymwneud ag arddangos celfyddyd gain a chymhwysol yn yr AOG a wnewch chi wneud hynny drwy e-bostio eich cyfraniad at michael.tooby@amgueddfacymru.ac.uk.
Bydd AOCC wedyn yn cynhyrchu ail gymal yn yr Hydref a'r Gaeaf eleni, pan fydd ein hymatebion i'r pynciau a godwyd yn cael eu dadlennu. Bydd ail gyfle gennych y pryd hwnnw i ymateb, felly rhowch eich enw a'ch cyfeiriad i ni fel ein bod yn gallu cadw mewn cysylltiad.
Papur Briffio ar y Broses Ymgynghori
gan Michael Tooby, Cyfarwyddwr, Amgueddfa ac Oriel Genedlaethol.Adroddiad ar ran gyntaf yr ymgynghoriad
gan David Clarke, Hwylusydd.







