
Pecyn adnoddau i diwtoriaid Cymraeg ei ddefnyddio yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru
Mae Perthyn yn adnodd rhyngweithiol sy’n cynnig cyfle i diwtoriaid a dysgwyr i ddysgu, datblygu a gloywi iaith trwy fanteisio ar holl adnoddau Oriel 1, yn Sain Ffagan.
Mae Oriel 1 yn defnyddio pob math o wrthrychau, lluniau, ffilm a straeon personol i ddangos beth mae’n ei olygu i fod yn Gymro neu’n Gymraes ac i fyw yng Nghymru heddiw.
Lawrlwythwch y pecyn lliwgar yma - mae'r pecyn yn cynnwys:
- Rhagarweiniad i diwtoriaid
- Gweithgareddau Mynediad
- Gweithgareddau Sylfaen
- Gweithgareddau Canolradd
- Gweithgareddau Uwch
- Cardiau fflach
- Taflenni gwerthuso i diwtoriaid a myfyrwyr
Hefyd, gellir gweld clipiau fideo yma, yn cynnyws 18 o ddysgwyr yn cyflwyno eu hunain ac yn trafod pam eu bod nhw'n dysgu Cymraeg.
Dewch â’ch dysgwyr i fwynhau awyrgylch unigryw Sain Ffagan. Am fwy o wybodaeth neu i archebu ymweliad ffoniwch (029) 2057 424, neu gliciwch yma.







