Adnoddau Ymchwil yr Adran
Mae casgliadau'r Adran Ddiwydiant yn cynnwys y casgliadau canlynol:
- Gwrthrychau tri-dimensiwn, yn amrywio o ran maint o gychod gwreiddiol, locomotifau ac injans sefydlog i fodelau wrth raddfa o'r gwrthrychau hyn, o haearn crai i filed a hoelion, ac o dorwyr glo i fandrelau
- Dogfennau, e.e. posteri, pamffledi, papurau cyflog, tystysgrifau rhyddhau, cytundebau
- Ffotograffau, negyddion papur, gwydr a ffilm, printiau gwreiddiol a chopïau, celfweithiau (pob cyfrwng) a chelfyddyd gymhwysol
- Recordiau ffilm a sain, pob fformat, o sine, u-matig a VHS, o dapiau rîl i gasetiau.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Curadur Adrannol perthnasol.
Oriau agor
The Collections Centre, Nantgarw is open to researchers, on an appointment basis, from Monday to Friday between 9.30am and 4.00pm.
Mae'r Ganolfan Gasgliadau, Nantgarw, yn agored i ymchwilwyr, drwy drefniant ymlaen llaw, o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 4.00pm.
Cyn eich ymweliad, cofiwch y bydd yn rhaid i chi:
- Trefnu cyfarfod drwy gysylltu ag aelod o staff curadurol yr Adran Ddiwydiant
- Dod â phrawf o bwy ydych gyda chi, e.e. trwydded yrru, pasbort, neu dystysgrif geni
- Cydymffurfio â Rheolau'r Ystafell Ymchwil.