Amgueddfa Cymru

Y Casgliadau Ffotograffig

Cynorthwy-ydd Curadurol: Mark Etheridge BA

[delwedd: Colier di-waith yn hel glo]

Colier di-waith yn hel glo yn y Rhondda yn 1937.

Mae dros 100,000 o ddelweddau ar ffurf printiau copi yn y casgliad, o bob maes o weithgarwch diwydiannol, morwol a thrafnidiaeth Cymru. Nid yw'r ffotograffau ar gael i bori drwyddynt, a bydd angen i chi drefnu apwyntiad gyda churadur a fydd yn paratoi unrhyw ddelweddau sy'n berthnasol i'ch maes ar eich cyfer. Mae mynegai ar gael hefyd. Gellir archebu copïau o ddelweddau at ddefnydd preifat, i'w defnyddio mewn projectau academaidd ac i'w cyhoeddi. Gallwn ddarparu manylion costau a ffioedd atgynhyrchu ar gais.

Ymhlith rhai o'r casgliadau unigol mwyaf ceir:

Casgliad TEMPEST

Wedi'i sefydlu yng Nghaerdydd ar ôl yr Ail Ryfel Byd fel arbenigwyr mewn tynnu awyrluniau, tynnodd H. Tempest a'i Gwmni tua 25,000 o awyrluniau dros y DU gyfan (gan ganolbwyntio, yn naturiol, ar Gymru) rhwng 1950 a 1970. Mae'r rhain yn cynnwys lluniau o waith adeiladu cynnar traffordd yr M4, datblygiad stadau diwydiannol wedi'r rhyfel, a delweddau diwydiannau a oedd wedi hen ymsefydlu ond sydd bellach wedi diflannu.

[delwedd: Ysgol Gyfun Sandfields]

Ysgol Gyfun Sandfields, Aberafan ger Port Talbot.

[delwedd: Bwerdy Aberddawan]

Llun o Bwerdy Aberddawan a dynnwyd yn 1972.

[delwedd: Cofrestru teithwyr Cambrian Air Services]

Llun hyfryd, sy'n cyfleu naws y cyfnod, o'r cyfleusterau ar gyfer cofrestru teithwyr Cambrian Air Services ym Maes Awyr Pengam, Caerdydd. Fe'i tynnwyd yn Ionawr 1954.

Casgliad HANSEN

Mae hwn yn cynnwys 4,560 o ddelweddau ffrâm lawn o longau yn Nociau Caerdydd a'r cyffiniau a dynnwyd rhwng 1920 a 1975 gan y cwmni ffotograffig lleol, Lars Peter Hansen a'i fab Leslie.

[delwedd: Y llong gargo Llanberis]

Yn yr enghraifft nodweddiadol hon o'i waith ffotograffig celfydd, mae Leslie Hansen wedi dal y llong gargo Llanberis yn agosáu at ddociau Caerdydd yn ystod haf 1948. Adeiladwyd y llong hon yn 1928 gan Hawthorn, Leslie & Co, Wallsend-on-Tyne, ar gyfer Evan Thomas, Radcliffe & Co, perchenogion llongau yng Nghaerdydd. Wedi'i henwi ar ôl y pentref yn Eryri, roedd hi'n un o nifer o longau yn fflyd Radcliffe a oedd yn dwyn enwau lleoedd Cymru yn cynnwys y rhagddodiad Llan.

[delwedd: The Hansen Shipping Photographic Collection]


Casgliad J.E. MARTIN

Yn y casgliad hwn ceir 575 negydd o ffotograffau o ansawdd da o wahanol agweddau ar drafnidiaeth dros dir a môr ac yn yr awyr (yng Nghymru a Lloegr) yn dyddio o'r cyfnod wedi'r rhyfel hyd tua 1970.


Casgliad A.C. MITCHELL

Casgliad o 258 negydd yn portreadu, yn bennaf, drefi a ffyrdd gwledig de Cymru. Wedi'i eni yn Chatham, ymgartrefodd Mr Mitchell yng Nghymru yn ystod y 1950au gan dynnu lluniau pethau a fyddai, yn ei dyb ef, yn diflannu ymhen amser.


Casgliad A.B.P:

[delwedd: Ffactri Ascom Telecommunications]

Llun a dynnwyd y tu mewn i ffactri Ascom Telecommunications yn Llaneirwg, Caerdydd.

[delwedd: Llong]

[delwedd: Blaenddelw'r Terra Nova]

Blaenddelw'r Terra Nova.

Mae'r casgliad hwn o oddeutu 2,000 negydd, a roddwyd yn 1996 gan swyddfa Caerdydd Associated British Ports, yn darparu darlun nid yn unig o sut y gweithiai dociau de Cymru, ond hefyd bortread o ddigwyddiadau cymdeithasol megis ymweliadau pobl bwysig a chyflwyniadau i aelodau o'r staff.

Mae'r Amgueddfa yn cynnig gwasanaeth ffotograffig sy'n golygu y gallwn dynnu lluniau newydd o wrthrychau yng nghasgliad yr Amgueddfa a darparu copïau ohonynt. Gellir cael rhestr o gostau'r gwasanaeth hwn, a'r ffïoedd atgynhyrchu ychwanegol, os ydynt yn berthnasol, o'r Adran.

Oriau agor ac amodau defnyddio

Mae'r casgliad ffotograffig cyfeiriol ar agor i'r cyhoedd o ddydd Llun hyd ddydd Gwener rhwng 9.30am a 4.00pm. Mae ar gau bob penwythnos a gwyliau cyhoeddus.

Os hoffech chi ymweld â'r casgliad ffotograffig cyfeiriol gallwch wneud hynny drwy drefniant ymlaen llaw. Gweler y manylion cyswllt ar gyfer y casgliad ffotograffig.

Am fwy o wybodaeth cysylltu:

Swyddog Trwyddedu Delweddau,
Mentrau Amgueddfa Cymru
Cyfyngedig,
Parc Cathays,
CAERDYDD
CF10 3NP

Ffôn : 029 2057 3280

e-bost
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.