Y Casgliadau Ffotograffig
Cynorthwy-ydd Curadurol: Mark Etheridge BA

Mae dros 100,000 o ddelweddau ar ffurf printiau copi yn y casgliad, o bob maes o weithgarwch diwydiannol, morwol a thrafnidiaeth Cymru. Nid yw'r ffotograffau ar gael i bori drwyddynt, a bydd angen i chi drefnu apwyntiad gyda churadur a fydd yn paratoi unrhyw ddelweddau sy'n berthnasol i'ch maes ar eich cyfer. Mae mynegai ar gael hefyd. Gellir archebu copïau o ddelweddau at ddefnydd preifat, i'w defnyddio mewn projectau academaidd ac i'w cyhoeddi. Gallwn ddarparu manylion costau a ffioedd atgynhyrchu ar gais.
Ymhlith rhai o'r casgliadau unigol mwyaf ceir:
Casgliad TEMPEST
Wedi'i sefydlu yng Nghaerdydd ar ôl yr Ail Ryfel Byd fel arbenigwyr mewn tynnu awyrluniau, tynnodd H. Tempest a'i Gwmni tua 25,000 o awyrluniau dros y DU gyfan (gan ganolbwyntio, yn naturiol, ar Gymru) rhwng 1950 a 1970. Mae'r rhain yn cynnwys lluniau o waith adeiladu cynnar traffordd yr M4, datblygiad stadau diwydiannol wedi'r rhyfel, a delweddau diwydiannau a oedd wedi hen ymsefydlu ond sydd bellach wedi diflannu.



Casgliad HANSEN
Mae hwn yn cynnwys 4,560 o ddelweddau ffrâm lawn o longau yn Nociau Caerdydd a'r cyffiniau a dynnwyd rhwng 1920 a 1975 gan y cwmni ffotograffig lleol, Lars Peter Hansen a'i fab Leslie.

Casgliad J.E. MARTIN
Yn y casgliad hwn ceir 575 negydd o ffotograffau o ansawdd da o wahanol agweddau ar drafnidiaeth dros dir a môr ac yn yr awyr (yng Nghymru a Lloegr) yn dyddio o'r cyfnod wedi'r rhyfel hyd tua 1970.
Casgliad A.C. MITCHELL
Casgliad o 258 negydd yn portreadu, yn bennaf, drefi a ffyrdd gwledig de Cymru. Wedi'i eni yn Chatham, ymgartrefodd Mr Mitchell yng Nghymru yn ystod y 1950au gan dynnu lluniau pethau a fyddai, yn ei dyb ef, yn diflannu ymhen amser.
Casgliad A.B.P:



Mae'r casgliad hwn o oddeutu 2,000 negydd, a roddwyd yn 1996 gan swyddfa Caerdydd Associated British Ports, yn darparu darlun nid yn unig o sut y gweithiai dociau de Cymru, ond hefyd bortread o ddigwyddiadau cymdeithasol megis ymweliadau pobl bwysig a chyflwyniadau i aelodau o'r staff.
Mae'r Amgueddfa yn cynnig gwasanaeth ffotograffig sy'n golygu y gallwn dynnu lluniau newydd o wrthrychau yng nghasgliad yr Amgueddfa a darparu copïau ohonynt. Gellir cael rhestr o gostau'r gwasanaeth hwn, a'r ffïoedd atgynhyrchu ychwanegol, os ydynt yn berthnasol, o'r Adran.
Oriau agor ac amodau defnyddio
Mae'r casgliad ffotograffig cyfeiriol ar agor i'r cyhoedd o ddydd Llun hyd ddydd Gwener rhwng 9.30am a 4.00pm. Mae ar gau bob penwythnos a gwyliau cyhoeddus.
Os hoffech chi ymweld â'r casgliad ffotograffig cyfeiriol gallwch wneud hynny drwy drefniant ymlaen llaw. Gweler y manylion cyswllt ar gyfer y casgliad ffotograffig.
Am fwy o wybodaeth cysylltu:
Swyddog Trwyddedu Delweddau,
Mentrau Amgueddfa Cymru
Cyfyngedig,
Parc Cathays,
CAERDYDD
CF10 3NP
Ffôn : 029 2057 3280
e-bost






