Diwydiannau modern a chyfoes
Curadur: Ian Smith
[delwedd: Y Sinclair Spectrum+]
Y Sinclair Spectrum+. Dyma'r peiriant a gysylltid yn bennaf â'r mynd a fu ar gyfrifiaduron cartref yn ystod y 1980au cynnar. Wedi'i lansio'n wreiddiol yn 1982 gan Sinclair Research, un o gwmnïau Syr Clive Sinclair, mae hwn yn enghraifft o fodel diwygiedig yn dyddio o 1984. Cynhyrchwyd y peiriant arbennig hwn yn rhannol gan AB Electronics yn Abercynon, ac yno hefyd y'i rhoddwyd at ei gilydd.
[delwedd: Chitty Chitty Bang Bang]
Cynhyrchwyd Chitty Chitty Bang Bang gan Corgi Toys yn eu ffactri yn Fforest-fach ger Abertawe. Fe'i lansiwyd yn 1968 i gyd-fynd â'r ffilm a oedd yn dwyn yr un teitl. Ymhen yr hir a'r hwyr gwerthwyd dros dri chwarter miliwn o'r model hwn.
[delwedd: Subbuteo]
Cynhyrchwyd y tîm pêl-droed bwrdd hwn gan Subbuteo yn ystod y 1960au hwyr neu'r '70au cynnar ac fe gafwyd gafael arno gan yr Adran er mwyn dangos y math o gynnyrch a wnaed yn ffactri Subbuteo yn Llanfair-ym-Muallt. Mae'r tîm arbennig hwn yn enghraifft o'r math 'pwysau trwm gwreiddiol' ac maent yn gwisgo lliwiau West Ham United.
Penododd yr Adran Ddiwydiant ei Guradur cyntaf a chanddo gyfrifoldeb am ddiwydiannau modern a chyfoes Cymru ym mis Mai 1999. Dewiswyd 1936 fel man cychwyn y casgliad hwn gan mai yn ystod y flwyddyn honno yr agorwyd Stad Ddiwydiannol Trefforest, y stad gyntaf o'i bath yng Nghymru. Yn gyffredinol, ystyrir y digwyddiad hwn fel y cam cyntaf ar hyd y ffordd a arweiniai at economi diwydiannol amrywiol y Gymru sydd ohoni.
Dangosodd asesiad o'r casgliad, a baratowyd adeg y penodiad, y cafodd rhywfaint o eitemau modern eu casglu, er i'r Adran gael ei sefydlu er mwyn cael gafael ar ddefnydd yn ymwneud â diwydiannau hanesyddol Cymru. Roedd y casgliad trafnidiaeth yn arbennig o dda a chasglwyd ynghyd nifer o ffotograffau o unedau gweithgynhyrchu ysgafn yng Nghymru.
Yn dilyn yr asesiad hwn, penderfynwyd datblygu dau gasgliad arbennig: y nod cyntaf oedd creu casgliad o wrthrychau a wnaed gan gwmnïau Cymreig ers y rhyfel, tra bod yr ail yn golygu ymweld â chwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd.
Dangosodd ymchwil ragarweiniol y cafodd amrywiaeth mawr o gynhyrchion eu gwneud yng Nghymru wedi'r rhyfel. O awyrennau i fframiau Zimmer, ac o ddefnyddiau ysgrafellog i sipiau; gellir hawlio y cawsant i gyd eu cynhyrchu rhywle yng Nghymru, rywbryd neu'i gilydd. Gyda'r fath ddewis anhygoel, canolbwyntiwyd yr ymdrechion ar gasglu gwrthrychau o'r gorffennol mewn dau faes: y diwydiant teganau, a chynhyrchu nwyddau electronig.
Gwnaed cyfraniad arwyddocaol i economi Cymru gan y naill ddiwydiant a'r llall ac rydym yn ceisio creu casgliadau diffiniol yn y ddau faes. Cliciwch yma er mwyn gweld rhai o'r eitemau hyn.
Ar yr un pryd ag a roddwyd yr elfen hon o'r polisi casglu ar waith, penderfynwyd hefyd drefnu i ymweld â nifer o gwmnïau Cymreig cyfoes er mwyn cael gafael ar rai o'r cynhyrchion a wneir yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r gwaith parhaol hwn wedi targedu cwmnïau sy'n cynrychioli'r amrywiaeth mawr o ddiwydiannau sydd i'w cael yn y Gymru fodern.