Diwydiannau modern a chyfoes
Curadur: Ian Smith



Penododd yr Adran Ddiwydiant ei Guradur cyntaf a chanddo gyfrifoldeb am ddiwydiannau modern a chyfoes Cymru ym mis Mai 1999. Dewiswyd 1936 fel man cychwyn y casgliad hwn gan mai yn ystod y flwyddyn honno yr agorwyd Stad Ddiwydiannol Trefforest, y stad gyntaf o'i bath yng Nghymru. Yn gyffredinol, ystyrir y digwyddiad hwn fel y cam cyntaf ar hyd y ffordd a arweiniai at economi diwydiannol amrywiol y Gymru sydd ohoni.
Dangosodd asesiad o'r casgliad, a baratowyd adeg y penodiad, y cafodd rhywfaint o eitemau modern eu casglu, er i'r Adran gael ei sefydlu er mwyn cael gafael ar ddefnydd yn ymwneud â diwydiannau hanesyddol Cymru. Roedd y casgliad trafnidiaeth yn arbennig o dda a chasglwyd ynghyd nifer o ffotograffau o unedau gweithgynhyrchu ysgafn yng Nghymru.
Yn dilyn yr asesiad hwn, penderfynwyd datblygu dau gasgliad arbennig: y nod cyntaf oedd creu casgliad o wrthrychau a wnaed gan gwmnïau Cymreig ers y rhyfel, tra bod yr ail yn golygu ymweld â chwmnïau sy'n gweithredu yng Nghymru ar hyn o bryd.
Dangosodd ymchwil ragarweiniol y cafodd amrywiaeth mawr o gynhyrchion eu gwneud yng Nghymru wedi'r rhyfel. O awyrennau i fframiau Zimmer, ac o ddefnyddiau ysgrafellog i sipiau; gellir hawlio y cawsant i gyd eu cynhyrchu rhywle yng Nghymru, rywbryd neu'i gilydd. Gyda'r fath ddewis anhygoel, canolbwyntiwyd yr ymdrechion ar gasglu gwrthrychau o'r gorffennol mewn dau faes: y diwydiant teganau, a chynhyrchu nwyddau electronig.
Gwnaed cyfraniad arwyddocaol i economi Cymru gan y naill ddiwydiant a'r llall ac rydym yn ceisio creu casgliadau diffiniol yn y ddau faes. Cliciwch yma er mwyn gweld rhai o'r eitemau hyn.
Ar yr un pryd ag a roddwyd yr elfen hon o'r polisi casglu ar waith, penderfynwyd hefyd drefnu i ymweld â nifer o gwmnïau Cymreig cyfoes er mwyn cael gafael ar rai o'r cynhyrchion a wneir yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r gwaith parhaol hwn wedi targedu cwmnïau sy'n cynrychioli'r amrywiaeth mawr o ddiwydiannau sydd i'w cael yn y Gymru fodern.








