Y Diwydiant Glo
Curadur: Ceri Thompson BA




Mae'r Curadur (Casgliadau'r Diwydiant Glo) yn gyfrifol am holl gasgliadau Adran Ddiwydiant Amgueddfa Cymru ac Amgueddfa Lofaol Cymru, Glofa Big Pit, yn ymwneud â'r diwydiant glo.
Ymgorfforwyd safle a chasgliadau Big Pit yn Adran Ddiwydiant AOCC, ar 1 Ebrill 2001. Gyda'i gilydd, mae'r ddau gasgliad yn cynnwys dwy ran o dair o'r holl gasgliadau'n ymwneud â chloddio glo sydd ym meddiant amgueddfeydd yng Nghymru ac mae'n ffurfio'r cofnod mwyaf cynhwysfawr o ddigon o ddiwydiant glo Cymru.
Uchafbwyntiau'r Casgliad
Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru
Mae casgliad Big Pit wedi'i ymgorffori yng nghasgliad glofaol Adran Ddiwydiant AOCC ac mae'n cynnwys:
- Adeiladau gwarchodedig y lofa ar wyneb y safle
- Gweithfeydd gwarchodedig danddaear
- Adluniadau o'r gweithgareddau ar wyneb y safle
- Peiriannau cloddio mawr ac o faintioli canolig
- Casgliad cynhwysfawr o oleuadau glofeydd
- Casgliad cynhwysfawr o offer llaw
- Casgliad cynhwysfawr o offer monitro amgylchedd glofeydd
- Casgliad cynhwysfawr o gyneilyddion to peredig a chymwysadwy
- Casgliad cynhwysfawr o offer cyfathrebu glofeydd
- Casgliad cynhwysfawr o offer achub glofeydd
- Casgliad cynrychioliadol o eitemau canolig a mawr, gan gynnwys torrwr glo mecanyddol 'picas chwyrlïol' cynnar a'r modur trydan cyntaf a ddefnyddid dan ddaear
- Casgliad cyfyngedig o eitemau undebau llafur y diwydiant glo
- Casgliad ffotograffig sy'n cynnwys 5,500 o ddelweddau yn ymwneud â'r diwydiant glo
- Llyfrgell yn cynnwys 7,900 o gyfrolau rhwymedig a phamffledi yn ymwneud â'r diwydiant glo
Cynnwys cysylltiedig o rhagor
Erthyglau: Tocynnau Glofa
30 Ionawr 2013Orielau: Bathodynnau Glowyr
13 Gorffenaf 2012Erthyglau: Medal Albert a Llifogydd Tynewydd
25 Mehefin 2012Orielau: John Cornwell
10 Ionawr 2012Erthyglau: Plant mewn Pyllau Glo
11 Ebrill 2011







