Morwriaeth a Thrafnidiaeth
Curadur: David Jenkins BA, PhD (Uwch Guradur Adrannol)
[delwedd: Model o'r llong lannau ager Velinheli.]
Model o'r llong lannau ager Velinheli.
[delwedd: Sgwner Hannah Jane o Borthmadog]
Dyma baentiad o'r sgwner Hannah Jane o Borthmadog, a adeiladwyd ym Mhwllheli yn 1867.
[delwedd: Car Benz 1900]
Cyflymder uchaf y car Benz 1900 yw 16mya.
[delwedd: Ceir Gilbern]
Cynhyrchwyd ceir Gilbern yn Llanilltud Faerdref o 1959 i 1973. Dengys y ddelwedd hon gar Mark II ar y chwith a Mark III ar y dde. Mae'r naill a'r llall wedi cadw ei rif cofrestru gwreiddiol.
[delwedd: Cerbyd]
Cwblhawyd y gwaith o adfer y cerbyd hwn yn 1997.
[delwedd: Tram]
Roedd y tram hwn yn cael ei redeg gan Gwmni Tramffyrdd Caerdydd ac fe deithiai yn ardal Cathays o'r ddinas. Wedi i'w ddyddiau fel tram ddirwyn i ben, gwasanaethodd fel bar te am dros hanner canrif cyn iddo gael ei gyflwyno i'r Amgueddfa yn 1971. Cwblhawyd y gwaith o'i adfer yn 1983.
[delwedd: Model o Cockington Manor]
Model o Cockington Manor (rhif 7806), un o locomotifau Rheilffordd y Great Western.
Mae casgliadau morwrol Amgueddfa Cymru yn cynnwys eitemau sy'n amrywio o ran maint a phwrpas o nodwydd gwneuthurwr hwyliau i fad achub o lawn faint! O ddiddordeb arbennig yw'r casgliadau o longau model sy'n cynnwys dros 150 o fodelau o longau y byddai wedi bod yn bosibl i'w gweld yn hwylio glannau Cymru yn ystod y ddwy ganrif a aeth heibio, a'r casgliad o ddarluniau llongau, 250 o longau o bob math wedi'u portreadu ar gyfer yr oesoedd a ddêl mewn dyfrliw, gouache ac olew.
Car Benz 101 mlwydd oed, y cerbyd hynaf i'w oroesi a fu ym meddiant Cymro, sy'n dal i gwblhau rali Llundain-Brighton; enghreifftiau o'r Gilbern, yr unig gar a wnaed yng Nghymru; cerbyd Rheilffordd y Cambrian, wedi'i adfer i'w hen ogoniant; a thram ceffyl o Gaerdydd - dyma rai yn unig o'r eitemau mawr yng nghasgliad trafnidiaeth yr adran. Mae hefyd gasgliad mawr o fodelau rheilffordd graddfa 7mm, sy'n portreadu'r rheilffyrdd yng Nghymru cyn dyddiau'r grwpio a chyn gwladoli.
Ymchwiliau hanes morwrol CymruCynnwys cysylltiedig o rhagor
Erthyglau: William James Tatem, Barwn 1af Glanely, 1868-1942
30 Tachwedd 2011Orielau: Cymru a Chaethwasiaeth
4 Ebrill 2011Erthyglau: Llofnodion o Alldaith Capten Scott i'r Antarctig ym 1910.
12 Tachwedd 2010Erthyglau: Sir William Reardon Smith (1856-1935)
15 Hydref 2009Cwisiau: Cwis: Pan oedd llongau Cymreig yn hwylio'r moroedd
29 Gorffenaf 2007