Tŷ Gwyrdd Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

Tŷ ar gyfer y Dyfodol

Codi Tŷ Gwyrdd yw un o brojectau mwyaf uchelgeisiol a chyffrous yr Amgueddfa hyd yma. Ysbrydolwyd yr adeiladwaith gan gystadleuaeth ar y cyd rhwng Sain Ffagan a BBC Cymru i gynllunio tŷ i ddangos sut y byddai tai yn esblygu yng Nghymru dros yr hanner can mlynedd nesaf. Roedd gofyn seilio'r tŷ ar dechnegau adeiladu traddodiadol tebyg i'r rhai y gellir eu gweld yn llawer o'r adeiladau ar y safle, ond gan ddefnyddio'r rhain mewn ffyrdd blaengar a fyddai'n edrych at y dyfodol.

Crëwyd y cynllun buddugol gan Jestico + Whiles ac mae wedi ei anelu at gyfrannu at y dadleuon cyfredol ynglŷn â phynciau fel effeithlonrwydd ynni, cynaladwyedd, newidiadau yn strwythur y teulu a phatrymau newydd ym maes gwaith a hamdde n.

Mae Tŷ Gwyrdd, a godwyd gan Redrow Homes, yn cyfuno'r traddodiad brodorol a thechnoleg flaengar mewn un pecyn integreiddiedig.

Fel llawer o'r tai eraill yng nghasgliad yr Amgueddfa, pren yw'r prif ddeunydd adeiladu, sy'n cyfuno traddodiad gyda chynaladwyedd. Siapwyd y to ar ffurf casglwr dwr naturiol ac mae wedi ei insiwleiddio gan haen drwchus o sedwm, sydd hefyd yn gweithio fel hidlydd naturiol. Mae'r 'dwr llwyd' hwn wedyn yn cael ei ail-gylchu, gan sicrhau bod y tŷ yn gynnil yn ei ddefnydd o ddwr. Mae wyneb deheuol y Tŷ wedi ei wydru yn helaeth i fanteisio ar ynni o'r haul, ac yn cael ei reoli gan 'groen' o gaeada u, sy'n cael eu symud yn otomatig.

Lolfa Tŷ ar gyfer y Dyfodol
Cegin Tŷ ar gyfer y Dyfodol

Gwna'r Tŷ ddefnydd tra effeithiol o ynni. Defnyddiwyd deunyddiau lleol lle bynnag yr oedd hynny'n bosibl, gan osgoi defnyddio ynni ar gyfer cludiant. Enghraifft drawiadol yw'r ail ddefnyddio ar y pridd a symudwyd o'r seiliau i wneud brics ar gyfer y wal fewnol, gan roi mas thermol i'r adeilad. Defnyddir gwlân fel ynysydd tra effeithiol i'r waliau. Drwy gadw'r defnydd o drydan gynhyrchwyd yn allanol mor isel â phosibl, amcangyfrifir bod y Tŷ bron yn hunan gynhaliol, ac nid yw'n cyn hyrchu arallyriadau carbon deuocsid o gwbl. Darperir gwres canolog a dwr twym drwy gyfrwng pwmp gwres tarddiad-daear trydan - math o oergell tu chwith - sy'n pwmpio dwr oer i ddyfnder o 35 medr, gan dynnu gwres naturiol o'r ddaear a'i ollwng ar ffurf cyn hesrwydd.

Cyd-drefnwyd dylunio a dodrefnu tu fewn y Tŷ gan y ddylunwraig Gymreig enwog Angela Gidden. Mae'r cynnyrch, a ddyluniwyd ac a ddatblygwyd yn arbennig ar gyfer y project, yn talu sylw i'r un cwestiynau a godwyd gan y Tŷ ei hun. Hefyd, mae gan yr ardd, a gynlluniwyd gan Richards, Moorhead a Laing a'i chreu gan Gerald Davies Ltd. thema o gynaladwyedd ac atebolrwydd amgylcheddol.

Ni ddylid synied am y tŷ fel cartref delfrydol, ond yn hytrach fel un ateb ymarferol posibl i anghenion tai yng Nghymru yn y dyfodol. Yn hyn o beth mae Tŷ Gwyrdd yn ymgorffori un o brif amcanion yr Amgueddfa, sef defnyddio gwybo daeth o'r gorffennol i ysbrydoli trafodaeth ddeallus ynglŷn â'r dyfodol.

Llyfr House for the Future
Llyfr House for the Future [ PDF 15MB]

Cefnogwyd gan:

Logos

Gwybodaeth

Map

Sain Ffagan, Caerdydd
Ar agor 10am-5pm bob dydd

Ffôn:
(029) 20573500
Parcio ceir: £3.50 y car y dydd. Nodwch bod yna beiriant arian ar y safle.

» Gwybodaeth i ymwelwyr a sut i gyrraedd (yn gynnwys oriau agor dros y Nadolig)

digwyddiadau

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.