Ar Gof a Chadw - yr Archif Sain
Oherwydd prinder staff, mae'r darpariaeth ar gyfer gwasanaeth ymholiada'r archif a'r llyfrgell yn llai ar hyn o bryd. Ymddiheurwn am y diffyg yn y gwasaneth.

"Odd a yndo i, ac odd 'y nd o 'mlæn i'n Fari Lwydwr lled ddæ. Ond odd ginnon ni un bachan... odd a shwd un tal, chwel. A doti box hat ar 'i ben a wedi'ny chwel, a rosette coch man'yn, a'i flaco fa sbo fa fel sweep! Wel, a gweud y gwir, odd a'n ddicon o Fari Lwyd 'i 'unan chwel. A fe fysa fa'n canu'n iwsffwl ofnadw 'ed"
Pan recordiwyd Mr Evan Bevan, llefarwr y geiriau uchod, gan Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru ym 1960, yr oedd eisoes yn bedwar ugain oed. Fe'i ganed ar fferm Tre-bryn, Pen-coed, lle ganed ei dad a'i dad-cu o'i flaen.

Mae'r recordiadau a wnaed ohono yn werthfawr nid yn unig fel cofnod o arferion traddodiadol yr ardal, fel y Fari Lwyd, ond hefyd am fod Mr Bevan yn un o siaradwyr olaf Cymraeg brodorol y rhan honno o Forgannwg.

Er y dechrau cyntaf, bu recordio siaradwyr ar bob agwedd o fywyd gwerin yn rhan bwysig o waith yr Amgueddfa. Dechreuwyd casglu yn y maes yn niwedd y 1950au, gan roi'r pwyslais ar yr ardaloedd hynny lle'r oedd yr iaith a'r bywyd traddodiadol fwyaf mewn perygl.
Ystod yr archif
Mae'r recordiadau'n cwmpasu amrywiaeth o bynciau:
-
amaethyddiaeth

- crefftau
- gwaith tŷ
- bwydydd traddodiadol
- meddyginiaethau gwerin
- chwaraeon
- storïau gwerin
- canu gwerin
- arferion tymhorol
- arferion marw a chladdu
- diwydiannau megis y diwydiant glo
- y sefyllfa ieithyddol
- tafodieithoedd y Gymraeg a geirfâu crefft

Er bod y mwyafrif o'r cyfweliadau yn Gymraeg, mae hefyd oriau lawer o ddeunydd yn yr iaith Saesneg, yn enwedig o'r ardaloedd hynny sydd yn hanesyddol Saesneg eu hiaith, megis de Penfro, Bro Gwyr a'r Gororau, a'r de-ddwyrain diwydiannnol. Ychwanegwyd at y rhain pan dderbyniwyd casgliad o dros 600 o dapiau ymchwil ar gyfer cyfres hanes llafar All Our Lives BBC Cymru i'r archif.
Mae'r gwaith casglu yn parhau - un o'r projectau diweddaraf oedd cofnodi atgofion am yr adfywiad mewn dawnsio gwerin dros yr hanner canrif diwethaf.
Staff yr Archif
Meinwen Ruddock, Archifydd (02920 573427)
Lowri Jenkins, Cynorthwy-ydd Archif (02920 573444)
Hywel Evans, Technegydd Clyw-Weledo (02920 573429)
Silindrau Ffonograff a gasglwyd gan y Fonesig Ruth Herbert Lewis



