Yr Archif Luniau
Oherwydd prinder staff, nid ydym yn medru darparu gwasanaeth ymholiadau archif na llyfrgell ar hyn o bryd.
Mae'r Archif Luniau yn cynnwys tua 150,000 o negyddion a phrintiau, a thua 15,000 o dafluniau. Ers agor Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru yn 1948 bu'r staff yn tynnu lluniau o fywyd gwerin Cymru, ac mae'r Archif Luniau yn cynnwys y rhain, ond hefyd gyfoeth o luniau llawer hyn a gaffaeliwyd yn rhoddion, neu a gopïwyd o luniau gwreiddiol a fenthyciwyd i'r Amgueddfa i'r perwyl hwn.

Gwneir defnydd helaeth o'r Archif Luniau gan ymchwilwyr, ac yn enwedig gan gyhoeddwyr a'r cyfryngau.


Gwybodaeth staff
Meinwen Ruddock, Yr Archifydd
Am fwy o wybodaeth cysylltu:
Swyddog Trwyddedu Delweddau,
Mentrau Amgueddfa Cymru
Cyfyngedig,
Parc Cathays,
CAERDYDD
CF10 3NP
Ffôn : 029 2057 3280
e-bost






