Yr Archif Lawysgrifau
Oherwydd prinder staff, nid ydym yn medru darparu gwasanaeth ymholiadau archif na llyfrgell ar hyn o bryd.
Er i'r Amgueddfa, fel y gellid disgwyl, roi pwyslais o'r cychwyn ar gasglu gwrthrychau, mae gan yr Archif yn ei meddiant lu o lawysgrifau megis
- llythyrau,
- nodiadau ar wahanol bynciau,
- cynhyrchion eisteddfodol a chymdeithasau arbennig,
- traethodau ymchwil perthnasol,
- baledi, carolau ac anthemau printiedig,
- dyddiaduron,
- llyfrau cyfrifon ffermwyr, crefftwyr a masnachwyr,
- llyfrau lloffion,
- cynlluniau adeiladau
- cytundebau prentisiaeth
- llyfrau ymarferion ysgol
- llyfrau clustnodau defaid
- llythyrau neithior (printiedig)
Ceir hefyd rhai casgliadau sylweddol e.e.:
Atebion i holiaduron
Yn ystod y 1930au, sylweddolwyd ei bod yn holl bwysig i'r Amgueddfa Genedlaethol gychwyn casglu gwybodaeth ledled Cymru ar wahanol agweddau o'i diwylliant gwerin. Lluniwyd holiadur dwyieithog, manwl yn 1937 i'r pwrpas hwn, ac fe'i dosbarthwyd ar raddfa eang dros Gymru. Y mae'r atebion i'r holiadur hwnnw, ynghyd ag atebion i holiaduron diweddarach (e.e. holiadur geirfa amaethyddol Adran Amaeth Urdd Graddedigion Prifysgol Cymru), bellach yn archif yr Amgueddfa.
"Llyfrau Ateb" Amgueddfa Werin Cymru
O'r 1960au ymlaen, anfonodd Adran Tafodieithoedd a Thraddodiadau Llafar yr Amgueddfa lyfrau ateb at bersonau y tybid bod ganddynt wybodaeth dda am feysydd arbennig. Cafwyd ymateb ffafriol iawn i'r ceisiadau hyn - yn wir, gellir ystyried rhai o'r llyfrau ateb ymhlith ffynonellau pwysicaf yr Archif. Ynddynt ceir nodiadau manwl a gwerthfawr ar bynciau megis:
- hen ddulliau amaethu
- ffeiriau
- meddyginiaethau ac arferion gwerin eraill
- hen chwaraeon
- bwydydd traddodiadol
- crefftau a chrefftwyr gwlad
- tafodieithoedd a dywediadau
- atgofion o fywyd gwledig yng Nghymru o tua diwedd y 19eg ganrif ymlaen
Gohebiaeth dderbynodi'r Amgueddfa
Ffynhonnell bwysig arall yw'r ohebiaeth a ddaeth yn sgil derbyn gwrthrychau i'r casgliadau. Mae'r rhain yn dyddio o 1885 ymlaen. Diogelodd Dr Iorwerth Peate i'r Archif lawer o'r llythyrau a anfonwyd ato o'r 1930au ymlaen sy'n cynnwys gwybodaeth newydd neu ddiddorol am hen adeiladau, hen arferion neu wrthrychau arbennig.
Casgliadau arbennig
Hefyd yng ngofal yr archif mae papurau rhai o gasglwyr mwyaf diwyd a diwylliedig ein cenedl e.e.
- Evan Jones (1850 - 1928) Tŷ'n Pant, Llanwrtyd. Treuliodd y gŵr diwylliedig hwn ei oriau hamdden am flynyddoedd lawer yn casglu defnyddiau a gwybodaeth am lên gwerin a hynafiaethau ei ardal.
- Parchedig W. Meredith Morris (1867 - 1921), Clydach Vale. O ddiddordeb arbennig yw ei lawysgrifau sy'n ymdrin â'r crwth a'r ffidil a'i astudiaethau o dafodiaith a llên gwerin Sir Benfro.
- T.C. Evans ('Cadrawd') - Hynafiaethydd, hanesydd lleol a chasglwr llên gwerin Morgannwg. Mae ei lawysgrifau niferus bellach wedi eu gwasgaru rhwng y Llyfrgell Genedlaethol, Llyfrgell Rydd Caerdydd a'r Amgueddfa Werin.
Yn ogystal â'r uchod mae casgliadau o lawysgrifau a phapurau gan John Breese Davies, y Fonesig Herbert Lewis a Mrs Dora Herbert Jones, Syr Cyril Fox, Mrs Elizabeth Baker, a 'r Parch. W. Rhys Jones ('Gwenith Gwyn').
Croesewir defnyddiau llawysgrifol pellach fel rhoddion neu fenthyciadau i'w copïo, a hynny trwy gydweithrediad agos â sefydliadau archifol eraill yng Nghymru.



