Casgliadau

Polisi Ar Ddefnyddio'r Casgliadau

  1. Cyflwyniad
  2. Mynediad i'r casgliadau a defnyddio'r casgliadau
  3. Taliadau
  4. Cyfyngiadau
  5. Safonau mynediad
  6. Cyfleusterau
  7. Canllawiau
  8. Goruchwyliaeth

1 Cyflwyniad

Pwrpas bodolaeth casgliadau AOCC yw ehangu gwybodaeth; ni ellir gwireddu'r nod hwn oni fo'r gwrthrychau a'r sbesimenau ar gael ar gyfer gwaith ymchwil, dysgu, arddangos ac i'w benthyg. Ar yr un pryd, rhaid cydnabod bod AOCC yn dal casgliadau (mewn ymddiriedolaeth) ar gyfer y cyhoedd, a rhaid monitro'r defnydd sydd arnynt yn ofalus er mwyn eu hamddiffyn rhag cael eu camddefnyddio, ac er mwyn sicrhau y byddant o ddefnydd yn y dyfodol. Polisi AOCC yw sicrhau bod eu casgliadau ar gael gymaint â fo'n bosibl o fewn cyfyngiadau adnoddau a chadwraeth.

2 Mynediad i'r casgliadau a defnyddio'r casgliadau

Mae mynediad i gasgliadau'r Amgueddfa yn ymwneud â darparu'r cyfle i ddefnyddio'r casgliadau yn gorfforol yn ogystal ag o ran gwybodaeth. Ystyriaethau o ran gofal a rheolaeth addas ar y casgliadau sy'n pennu i ba raddau y bydd mynediad corfforol iddynt. Nodir yr ystyriaethau hyn yn y fan yma ac yn nogfen yr Amgueddfa, Policy on Care of the Collections. Ceir mynediad i'r casgliadau hefyd trwy dderbyn ar fenthyg y gwrthrychau neu'r sbesimenau. Manylir ar y broses hon yn nogfen Policy on Loans yr Amgueddfa.

Mae mynediad i'r casgliadau o ran gwybodaeth yn golygu darparu gwybodaeth am wrthrychau a sbesimenau trwy gatalogau a chyhoeddiadau, boed y rheiny'n lawlyfrau neu'n gatalogau electronig (gweler dogfen yr Amgueddfa, Policy on the Acquisition and Disposal of the Museum's Collections).

Mae defnydd y casgliadau yn ymwneud â'r holl amrywiol fathau o ddefnydd a wneir ar y gwahanol wrthrychau a sbesimenau er mwyn cyflawni amcanion yr Amgueddfa, yn ôl yr hyn a nodir yn ei Siarter.

3 Taliadau

Yn gyffredinol, ni chodir unrhyw dâl am ddefnyddio'r casgliadau. Fodd bynnag, os bydd galw i'w defnyddio at ddibenion masnachol (er enghraifft ffotograffiaeth neu ffilmio), yna mae gan yr Amgueddfa hawl i godi tâl.

4 Cyfyngiadau

Mewn rhai achosion, cyfyngir y defnydd ar wrthrychau neu sbesimenau arbennig i ymchwilwyr dilys yn unig (e.e. gwrthrychau neu sbesimenau sydd o werth arbennig o uchel neu sy'n arbennig o fregus). Fel arfer, rhoddir sbesimenau ar ddangos i arddangosfeydd dros dro ac ymchwilwyr dilys am gyfnod penodol.

5 Safonau mynediad

Mae safonau'r Adran Ddaeareg ar fynediad yn seiliedig ar y safonau a ddiffinnir gan y Comisiwn Amgueddfeydd ac Orielau (Standards in the Museums Care of Archaeological Collections (1992) a Standards in the Museum Care of Geological Collections (1993)), a ail-ddiffiniwyd fel a ganlyn:

  • Bydd ymholwyr sydd ag anawsterau o ran eu symudedd, eu golwg neu eu clyw yn cael mynediad i'r casgliadau ar yr un sail ag unrhyw ymholwyr eraill, cyn belled ag y bo'n bosibl.
  • Mae'r Adran yn cydnabod ei hymrwymiad i hysbysu'r cyhoedd am fodolaeth ei chasgliadau daearegol.
  • Caniateir i unrhyw ymchwilydd dilys, o dan amgylchiadau arferol fel a nodir isod, archwilio gwrthrychau ac archifau o'r casgliadau.
  • Byddwn yn ymateb i unrhyw ymholiad am fodolaeth math arbennig o wrthrych o fewn 10 niwrnod gwaith.
  • Yn gyffredinol, gall ymholwr drefnu apwyntiad o fewn 5 diwrnod gwaith o wneud cais i'r Amgueddfa.
  • Gall ymholwr sydd ag apwyntiad astudio'r holl ddogfennaeth sydd ar gael sy'n berthnasol i'r casgliadau a'r archifau perthnasol (heblaw am wybodaeth gyfrinachol) lle bo hynny'n addas.

6 Cyfleusterau

Bydd man ar gael lle y gall ymwelwyr astudio dan oruchwyliaeth. Bydd yn cynnig golau da, pwyntiau trydan, microsgopau golau adlewyrchol a golau trosglwyddedig a byrddau clir, a bydd powlenni ymolchi a thoiledau wrth law. Mae Polisi Dim Ysmygu gan yr Amgueddfa.

7 Canllawiau

Ystyrir ymholydd yn ymholydd dilys oni fo rheswm i feddwl ei fod ef neu hi yn torri, neu'n bwriadu torri'r gyfraith neu safonau egwyddorion daearegol. Defnyddir y safonau goruchwylio priodol. Gweler rhan 8 isod.

Mae gan yr Adran ddyletswydd i warchod y casgliadau a'r cofnodion, a gall y dyletswydd hwn wrthdaro â Pholisi Hygyrchedd AOCC. Bydd ymholwyr y bydd arnynt angen trin gwrthrychau a sbesimenau yn cael cyngor ar sut i wneud hynny yn ofalus ac yn ddiogel.

8 Goruchwyliaeth

Mae'r lefel o oruchwyliaeth yn ddibynnol ar Geidwad yr Adran Ddaeareg a bydd yn amrywio o ymwelydd i ymwelydd.

Dim ond ymchwilwyr dilys, yn ôl doethineb Ceidwad yr Adran Ddaeareg, sydd â'r hawl i weithio heb oruchwyliaeth. Rhaid i ymwelwyr eraill fod dan oruchwyliaeth aelod o'r staff ar bob adeg arall. Ni chaniateir mynediad i unrhyw ymwelydd i storfeydd yr Adran heb oruchwyliaeth.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglyn ag ymweld â'r Adran Ddaeareg, cysylltwch â'r Ceidwad Daeareg.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.