Staff a Gwaith Cyfredol
Projectau ymchwil ddiweddaraf: Cadwraeth
Vicky Purewal: Botanical Conservation Officer
Arbenigedd
Cadwraeth sbesimenau botanegol a ffotograffaidd. Yn medru gwneud peth gwaith rhwymo llyfrau.
Gwaith Cyfredol
Nodi ac adnabod olion plaleiddiaid ar ddalenni o'r blanhigfa. Hyfforddi myfyrwyr gogyfer â'r dystysgrif cadwraeth mewn sbesimenau astudiaethau naturiol a gymeradwyir gan Brifysgol Caergrawnt. Gwaith cadwraeth cyson ar y gwahanol gasgliadau a gedwir yn adran fotaneg y gyfadran Fioamrywiaeth. Cynnal a chadw yr orielau astudiaethau naturiol. BR>
Anrhydeddwyd Vicky â theitl Myfyriwr Cadwraeth y Flwyddyn gan Sefydliad Jerwood a'r Comisiwn Amgueddfeydd ac Orielau. Cynigiwyd PhD iddi er mwyn iddi fedru parhau i ymchwilio i'r maes eang hwn.
Ffôn: +44 (0)29 2057-3119
E-bost Vicky Purewal
Julian Carter: Swyddog Cadwraeth Swolegol
Arbenigedd
Cadwraeth sbesimenau swolegol, rheoli casgliadau a monitro'r amgylchedd.
Gwaith Cyfredol
Arolwg o Anifeiliaid Di-asgwrn-cefn Mawndiroedd Cymru, gofalu am y sbesimenau sydd ar ddangos yn yr orielau. Ar hyn o bryd mae'n astudio am radd MPhil ar ddirywiad DNA mewn casgliadau o anifeiliaid di-asgwrn-cefn.







