Botaneg
[delwedd: Salix myrsinifolia]
Vicky Purewal: Swyddog Cadwraeth Botanegol
Ffôn: +44 (0)29 2057 3119 Ffacs: +44 (0)29 2023 9829
Ffurflen e-bost
Mae'r gwaith cadw o fewn adain fotanegol yr adran bioamrywiaeth a bywydeg biosystematig (BioSyB) yn cynnig cryn her. Mae'r casgliadau yn cynnwys enghreifftiau o blanhigion blodeuog a rhai diflodau, trawsdoriadau pren, modelau cwyr botanegol, archifau, ffotograffau, printiau a darluniau. Cyfrifoldeb y swyddog cadw botanegol yw edrych ar ôl cyflwr y casgliadau. Golyga hyn ymgymryd â gwaith monitro, glanhau, gosod, ail-becynnu, ail-leoli a thrwsio. Rhaid i safon y gwaith cadw fod yn uchel iawn er mwyn ymestyn oes y casgliadau a chynyddu felly y cyfleoedd ar gyfer eu hastudio. Mae gwybodaeth eang ynglŷn â chasgliadau cymysg yn hanfodol ac yn sgil y gwaith yma mae'r adran wedi meithrin cysylltiadau ac mae'r Swyddog Cadwraeth wedi mynychu gwahanol gyrsiau hyfforddiant ym Mhrydain a thramor.
[delwedd: Roseybag willow herb (chamaenerion angustifolium)]
Ymysg y prif feysydd o arbenigedd yn yr adran y mae ail-osod sbesimenau llysieufa trwy ddefnyddio technegau ail-leithio, gollwng sbesimenau o blanhigion dŵr sydd wedi eu gosod trwy eu harnofio, cynnal arolygon cyflwr, rhewi a rhewsychu fel ffordd o reoli trychfilod pla, cadw cyflwr labeli a data papur, gwaith cadw ar fodelau cwyr ac adnabod olion plaladdwyr ar sbesimenau o fyd natur. Mae gwybodaeth sylfaenol ynglŷn â rhwymo llyfrau, cadw papur a ffotograffau hefyd yn angenrheidiol yn yr adran hon.
Mae'r deunydd botanegol yn cael ei gadw yn Llysieufa Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
Mae'r casgliadau o blanhigion fascwlaidd yn cael eu cadw ar eu gwastad ar ddalennau papur archifol a chant eu dal yn eu lle gyda strapiau yn hytrach na chael eu gludo. Caiff y planhigion isel eu cadw mewn pecynnau o bapur cotwm, mewn droriau o fewn system o rheseli symudol. Rhewir y casgliadau ar dymheredd o -20ºC am 72 awr ar gylchdro a chaiff unrhyw ddeunydd newydd sy'n cyrraedd ar fenthyg ei rewi yn syth. Gan fod y casgliadau yn cael eu rhewi'n rheolaidd o fewn AOCC mae'n bwysig i beidio eu gludo at y dalennau. Mae strapio'n caniatau rhywfaint o symudiad sy'n hollbwysig gyda deunydd organig, sy'n gorfod ymateb i newidiadau mewn lleithder cymharol.
Ymhlith y prosiectau sydd ar y gweill ar hyn o bryd y mae'r canlynol
- Cychwyn ar brosiect doethuriaeth i ymchwilio i bresenoldeb a dulliau o adnabod olion plaladdwyr ar ddalennau llysieufeydd.
- Ochr yn ochr â chadwraeth ddaearegol a sŵolegol, hyfforddi myfyrwyr yn fewnol mewn cadwraeth fotanegol tuag at gyflawni tystysgrif cadwraeth hanes natur.
- Parhad o waith cadw ar gasgliadau amrywiol o fewn adain fotanegol yr adran BioSyB.
- Cynnal a chadw'r orielau byd natur.
[delwedd: Salix sp.]
Rôl o fewn BioSyB
- Ymchwilio a chyflwyno prosiectau i grwpiau cadwraeth cenedlaethol a rhyngwladol.
- Diogelu a chadw deunydd o fewn y llysieufa a thu allan iddi.
- Cynghori ynglŷn ag anghenion cadwraeth o fewn yr adran o safbwynt storio, ffactorau amgylcheddol, arddangos a chyflwr casgliadau.
- Defnyddio technegau meicrosgop i adnabod pren.
- Adnabod rhywogaethau trychfilod pla a sbesimenau o blanhigion blodeuog a diflodau.
- AAteb ymholiadau ynglŷn â phob agwedd ar waith cadw botanegol.