Synau’r Deinosoriaid - Addysg: Amgueddfa Genedlaethol Cymru
Dychmygwch pa fath o sŵn fyddai deinosoriaid wedi ei wneud wrth drin a thrafod esgyrn deinosoriaid real a chymryd rhan mewn stori fywiog, swnllyd am goedwig yn ystod oes y deinosoriaid.
Amlinelliad o'r Gweithdy:
| Gweithgaredd | Cyswllt Cwricwlwm |
Amser* |
Gwaith cylch lle bydd y plant yn trin a thrafod esgyrn deinosoriaid a ffosilau eraill. Trafodaeth am yr hyn y gall tystiolaeth ffosilau ei ddatgelu am ddeinosoriaid. |
Iaith, llenyddiaeth a chyfathrebu. Gwybodaeth am a dealltwriaeth o'r byd |
15 mun |
Amser swnllyd – meddyliwch am y synau y gallai deinosoriaid gwahanol fod wedi eu gwneud drwy eu cymharu â synau anifeiliaid sy'n byw heddiw. Ail-grewch y synau. |
Gwybodaeth am a dealltwriaeth o'r byd |
20 mun |
Stori: Darllen Albie the Adventurer – stori ryngweithiol lle mae'r plant yn darparu synau drwy ddefnyddio offerynnau cerddorol. |
Datblygiad creadigol Iaith, llenyddiaeth a chyfathrebu. |
15 mun |
* gellir amrywio amseroedd yn unol â gofynion y grŵp
Yn yr ysgol – rhai syniadau am waith dilynol
- gwnewch eich ffosil eich hun drwy ddefnyddio plastr Paris a chlai modelu.
- ewch ar helfa ffosilau (mae Llanilltud Fawr, traeth Penarth a Chwm Ogwr yn llefydd gwych i chwilio am ffosilau).
- crëwch gynefin deinosoriaid ar gyfer eich deinosoriaid tegan. Edrychwch ar ffotograffau o sut yr ydyn ni'n credu y byddai Coedwig Jwrasig yn edrych. Esboniwch i'r plant eu bod yn mynd i greu cynefin deinosoriaid ar gyfer eu deinosoriaid tegan. Trafodwch y deunyddiau fydd eu hangen. Helpwch y plant i osod compost planhigion mewn hambwrdd a'i orchuddio â mwsogl. Gosodwch lwyni bychan yn y compost a gosod cerrig a deinosoriaid ar ben y cyfan..
- Darllenwch 'Stone Girl, Bone Girl' (hannes yr helwraig ffosilau Mary Anning o Lyme Regis).
- Gwnewch fasgiau deinosoriaid.



