Gofnodi newidiadau yn ein hinsawdd.
Mae ein hinsawdd yn newid. Mae gwyddonwyr yn cytuno bod ein byd ni'n cynhesu. Bydd yn cynhesu rhwng 1.4 - 5.8C yn y 90 mlynedd nesaf!

Gall malwod ein helpu ni i gofnodi'r newidiadau yn ein hinsawdd am eu bod nhw'n sensitif iawn i newidiadau mewn tymheredd.
Gallai Prydain gynhesach ddenu rhagor o falwod neu fwystfilod bach eraill o wledydd mwy cynnes. Mae'r falwen 'estron' fel arfer yn byw mewn gwledydd cynnes fel Sbaen a'r Eidal. Mae canlyniadau'r helfa falwod yn dangos bod y falwen 'estron' yn lledu'n araf tua'r gogledd i rannau oerach o Brydain.
A allai'r falwen yma fod yn lledu tua'r gogledd am fod Prydain yn cynhesu? Bydd angen rhagor o dystiolaeth arnon ni i fod yn sicr.
Mae'r Helfa Falwod yn gobeithio y bydd ysgolion a theuluoedd yn chwilio am falwod blwyddyn ar ôl blwyddyn i helpu i ddarganfod pam fod y falwen 'estron' yma'n ymgartrefu ym Mhrydain.







