Rydych chi yn: Hafan > Curadurol ac ymchwil > Bioamrywiaeth a Bywydeg Gyfundrefnol > Hanes Llystyfiant > Staff
English

Staff

Chris Cleal: Pennaeth Hanes Llystyfiant a Phlanhigion Is

Arbenigedd

Awdur dros 130 o lyfrau a phapurau ymchwil. Cynrychiolydd Prydeinig y Gymdeithas Ewropeaidd er Diogelu ein Treftadaeth Ddaearegol ac ysgrifennydd yr Athrofa Brydeinig er Cadwraeth Ddaearegol. Aelod gohebol o Isgomisiwn IUGS ar Stratigraffeg Garbonifferaidd. Arbenigedd: Paleobotaneg y cyfnod Paleosoig diweddar, gan gynnwys tacsonomeg noeth-hadogion, astudiaethau pilen, blodeueg a biostratigraffeg.

Ffôn: +44 (0)29 2057-3310
E-bost Chris Cleal


Heather Pardoe: Curadur (Peilleg Gwaternaidd)

Arbenigedd

Curadur nifer o gasgliadau bychain. Ei phrif faes ymchwil yw dyddodiad paill mewn amgylcheddoedd arctig- alpaidd. Y mae wedi datblygu diddordeb pellach yn hanes llystyfiant Cymru. Cydlynydd Cynllun Ysgoloriaeth Wyddoniaeth Nuffield. Un o ddau gydlynydd Prydeinig y Rhaglen Monitro Paill Ewropeaidd, sy'n astudio cyfraddau dyddodi paill wrth goedlinau.

Ffôn: +44 (0)29 2057-3294
E-bost Heather Pardoe


Helen Fraser: Curadur (Ffotograffiaeth Fotanegol) a Llyfrgellydd

Arbenigedd

Yn gyfrifol am Lyfrgell yr Adran BioSyB a'r casgliad o sleidiau ffotograffig botanegol. Mae'n gydgyfrifol am yr archifau botanegol. Mae'n cywain deunydd ar gyfer y cyhoeddiad dwyflynyddol Bibliography of European Palaeobotany & Palynology ac ar gyfer cylchgrawn yr adran, 'The Symbiont'. Mae'n cynorthwyo gyda'r agweddau gweinyddol ar gyhoeddiadau yn yr Adran Hanes Llystyfiant.

Ffôn: +44 (0)29 2057-3344

E-bost Helen Frazer


Maureen Lazarus: Cymrawd Ymchwil (Darlunio Botanegol)

Arbenigedd

Ymunodd â'r Project Cadwraeth i gynorthwyo cadwraethydd yr adran i ddiogelu, ailgartrefu a dogfennu'r casgliadau o ddarluniau botanegol. Ei phrif faes ymchwil yw darlunio botanegol a phrif bwrpas ei swydd yw dod â'r casgliad a'r Adran gyfan at sylw'r cyhoedd.

Ffôn: +44 (0)29 2057-3309

E-bost Maureen Lazarus