Staff
Chris Cleal: Pennaeth Hanes Llystyfiant a Phlanhigion Is
Arbenigedd
Awdur dros 70 o lyfrau a phapurau ymchwil. Cynrychiolydd Prydeinig y Gymdeithas Ewropeaidd er Diogelu ein Treftadaeth Ddaearegol ac ysgrifennydd yr Athrofa Brydeinig er Cadwraeth Ddaearegol. Aelod gohebol o Isgomisiwn IUGS ar Stratigraffeg Garbonifferaidd. Arbenigedd: Paleobotaneg y cyfnod Paleosoig diweddar, gan gynnwys tacsonomeg noeth-hadogion, astudiaethau pilen, blodeueg a biostratigraffeg.
Gwaith cyfredol
- Y berthynas rhwng fforestydd trofannol o'r cyfnod Carbonifferaidd Diweddar, deuocsid carbon yn yr atmosffer a chynhesu hinsoddol byd-eang.
- Ymaddasiad planhigion o'r cyfnod Carbonifferaidd Diweddar i gynefinoedd trofannol.
- Fflora'r cyfnod Carbonifferaidd diweddar yn Radstock (DU), Silesia (Gwlad Pwyl) Svoge (Bwlgaria), Shanxi (Tsieina) a Cape Breton (Canada).
- Datblygu rhestr gynhwysfawr o brif safleoedd paleobotanegol y byd (rhan o'r Project Geosafleoedd ar gyfer IUGS ac UNESCO).
Ffôn: +44 (0)29 2057-3310
E-bost: chris.cleal@amgueddfacymru.ac.uk
Heather Pardoe: Curadur (Peilleg Gwaternaidd)
Arbenigedd
Curadur nifer o gasgliadau bychain. Ei phrif faes ymchwil yw dyddodiad paill mewn amgylcheddoedd arctig- alpaidd. Y mae wedi datblygu diddordeb pellach yn hanes llystyfiant Cymru.
Gwaith Cyfredol
Cydlynydd Cynllun Ysgoloriaeth Wyddoniaeth Nuffield. Un o ddau gydlynydd Prydeinig y Rhaglen Monitro Paill Ewropeaidd, sy'n astudio cyfraddau dyddodi paill wrth goedlinau.
Ffôn: +44 (0)29 2057-3294
E-bost: E-bost Heather Pardoe
Maureen Lazarus: Curadur (Darlunio Botanegol) a Swyddog Cysylltiadau Allanol
Arbenigedd
Ymunodd â'r Project Cadwraeth i gynorthwyo cadwraethydd yr adran i ddiogelu, ailgartrefu a dogfennu'r casgliadau o ddarluniau botanegol. Ei phrif faes ymchwil yw darlunio botanegol a phrif bwrpas ei swydd yw dod â'r casgliad a'r Adran gyfan at sylw'r cyhoedd.
Ffôn: +44 (0)29 2057-3309
Helen Fraser: Curadur (Ffotograffiaeth Fotanegol) a Llyfrgellydd
Arbenigedd
Yn gyfrifol am Lyfrgell yr Adran BioSyB a'r casgliad o sleidiau ffotograffig botanegol. Mae'n gydgyfrifol am yr archifau botanegol. Mae'n cywain deunydd ar gyfer y cyhoeddiad dwyflynyddol Bibliography of European Palaeobotany & Palynology ac ar gyfer cylchgrawn yr adran, 'The Symbiont'. Mae'n cynorthwyo gyda'r agweddau gweinyddol ar gyhoeddiadau yn yr Adran Hanes Llystyfiant.
Ffôn: +44 (0)29 2057-3344








