Y canlyniadau hyd yn hyn...

Map
Map Falwod
Siart
Siart Falwod
Malwen

A yw'r falwen 'estron' yn lledu?

Ers 1950 pan welwyd y falwen 'estron' gyntaf yn Nyfnaint, mae hi wedi ymgartrefu mewn 16 o (is*) siroedd. Mae'r falwen wedi lledu mor bell i'r gogledd â Sir Efrog erbyn hyn!

Mae canlyniadau helfeydd malwod diweddar yn dangos bod y 'falwen' yn dal i ledu! Ers 2001, mae helwyr malwod wedi darganfod y falwen yn byw mewn 11 o is-siroedd!

Rydyn ni wedi derbyn 988 o adroddiadau am weld y malwod 'estron' ac wedi cadarnhau 94! Cewch chi weld y manylion ar y mapiau a'r siartiau.

Diolch i'r holl deuluoedd, ysgolion a helwyr malwod am eu cymorth!!

A yw malwod yn gallu'n helpu ni i gofnodi ffordd mae'r hinsawdd yn newid yn lleol?

*Un o'r hen siroedd yw is-sir. Trwy gyfri'r malwod a ffeindiwyd yn yr hen siroedd hyn, gallwn ni gymharu'r cofnodion newydd â'r rhai a gasglwyd cannoedd o flynyddoedd yn ôl.

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales