Rydych chi yn: Hafan > Addysg > SCAN > I ysgolion... > Helfa Falwod > Dewch i Gymryd Rhan!

Dewch i Gymryd Rhan!

PDF Helfa Falwod
snail_search.cy.pdf
Cliciwch i lawrlwytho
Malwen
  1. Argraffwch eich siart malwod.
  2. Ewch i chwilio am falwod ...
  3. Defnyddiwch eich canllaw i'r malwod i nodi beth welwch chi.
  4. Dewch nôl i'r wefan hon i roi gwybod i ni beth welsoch chi.

Byddwn ni'n rhoi Tystysgrif Gwyddonydd Gwych i chi fel gwobr!

Ble i ddod o hyd i falwod...

Mae malwod ym mhob man! Edrychwch mewn llefydd tywyll llaith yn eich iard gefn, eich gardd, yn y parc lleol neu hyd yn oed ar fuarth yr ysgol! Gallai malwod fod yn cuddio ymhlith dail sy'n pydru, y tu ôl logiau neu o dan botiau blodau yn yr ardd.

Mae adar, moch daear, llwynogod, chwilod, draenogod a hyd yn oed pobl yn bwyta malwod!

Dewch i nabod y malwod - cewch ddysgu am y malwod y gallech chi eu darganfod.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.