Athrawon - Ceisiadau a Gwybodaeth

Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion
Astudiaeth newid hinsawdd ar dir eich ysgol!
Daearyddiaeth & Gwyddoniaeth (CA2)
Ar brawf mewn dosbarthiadau Cam Sylfaen ac Anghenion Arbennig.
Defnyddiwch eich dosbarth awyr agored! Ymunwch â'r 160 o ysgolion sy'n cymryd rhan yn yr arbrawf arbennig hwn!
Mae Bylbiau'r Gwanwyn i Ysgolion yn rhoi cyfle i ddisgyblion cynradd fabwysiadu, astudio a chofnodi datblygiad bylbiau'r gwanwyn fel rhan o rwydwaith gwylio'r gwanwyn. Caiff pob disgybl fwlb Cennin Pedr Dinbych, Crocws ac photyn gardd er mwyn cofnodi'r tyfiant a'r amserau blodeuo.
Trwy gasglu a chymharu data mae disgyblion yn darganfod sut mae'r newid yn ein hinsawdd yn effeithio ar ein tymhorau, a beth mae hyn yn ei olygu i ni ac i'r natur o'n cwmpas. Mae disgyblion yn cymryd rhan yn Her Athro'r Ardd i gael tystysgrif gwyddonydd gwych.
Gall ysgolion ledled Cymru gymryd rhan gan bod y canlyniadau yn cael eu casglu drwy'r we - neu'r post os oes rhaid. Mae'r prosiect yn un parhaus a gall ysgolion gymryd rhan yn flynyddol. Cyrsiau i athrawon ar gael ledled Cymru.
Ffurflen Gais Arlein
Rhaid derbyn pob cais erbyn 31 Gorffenaf 2013.
Am fwy o wybodaeth gweler ein adnoddau neu ffoniwch (029) 2057 3304







