Casgliadau
Casgliad Peilliau
Mae gan yr Adran gasgliad o tua 2,300 o sleidiau cyfeiriadol o beilliau. Yn y lle cyntaf, casgliad eithaf bychan oedd hwn, gyda chynrychiolaeth dda o rywogaethau arctig-alpaidd, sy'n adlewyrchu diddordebau ymchwil presennol. Fodd bynnag, mae maint y casgliad wedi cynyddu'n sylweddol yn ddiweddar yn sgil derbyn 2000 o sleidiau o beilliau a sbesimenau ffwngaidd o'r Uned Asthma ac Alergedd yn Ysbyty Sili. Adnawdd hanfodol yw'r casgliad hwn ar gyfer ymchwil ac addysgu.
Prif ffocws yr ymchwil balynolegol ar hyn o bryd, yw dyddodiadau peilliau arwynebol a'r berthynas rhwng llystyfiant a dyddodiad peilliau mewn ardaloedd arctig-alpaidd. Ceir hefyd arbenigedd yn hanes llystyfiant Cymru a Llychlyn yn ystod yr Holosen.

Printiadau, lluniadau a deunydd ffotograffaidd
Mae'r Adran yn dal casgliad gwych o ryw 9000 o brintiadau a lluniadau, o ysgythriadau proffesiynol i ddyfrliwiau amaturaidd. Mae'n cynnwys gweithiau gan feistri darlunio botanegol fel Ehrer, Redouté a Fitch. Llwyddodd yr arddangosfa Paradwys y Blodau (Hydref 97 - Mawrth 98) i godi proffeil yr eitemau hyn yn sylweddol. Mae'r casgliad wedi'i ddogfennu a'i gadw'n dda a cheir lefel uchel o arbenigedd oddi mewn i'r Adran. Mae catalog cynhwysfawr yn cael ei baratoi. Ar hyn o bryd, mae ymchwil yn canolbwyntio ar gryfderau'r casgliadau, yn enwedig gwaith gan arlunwragedd botanegol, a hefyd Tablau Botanegol unigryw Bute gan John Miller.
Mae'r is-adran hefyd yn gyfrifol am 47,000 o sleidiau 35mm a fformat ffotograffeg canolig. Cryfderau'r casgliad hwn yw fflora ac amgylchedd Cymru, planhigion alpaidd a darluniau botanegol.
Y Casgliad Economaidd
Mae'r casgliad economaidd yn cynnwys tua 4500 sbesimen. Mae'n cynnwys amrediad eang o blanhigion meddygol, cynhyrchion bwyd, hadau, planhigion anarferol a deunyddiau crai sydd o bwys masnachol. Mae'r casgliad hwn yn denu myfyrwyr sy'n astudio meddygaeth lysieuol ac mae yma gryn botensial ar gyfer gweithgareddau y tu allan i'r amgueddfa.
Archifau
Archifau: Mae casgliad yr archifau'n cynnwys gwahanol ddeunydd sy'n amrywio o lawysgrifau anghyhoeddiedig gan fotanegwyr enwog o Gymru, i gofnodion adrannol. Blaenoriaeth i'r casgliad hwn yw ei ad-drefnu a chynhyrchu cronfa ddata er mwyn iddo fod yn fwy hygyrch. Y nod yn y tymor-hir yw ymchwilio a chyhoeddi rhai o'r trysorau botanegol sydd i'w cael ynddo.








