Cystadleuaeth darlunio
Cystadleuaeth tynnu llun blodyn: cystadlwch i ennill gwobrau gwych ar gyfer eich ysgol!
Mae Athro'r Ardd yn chwilio am luniau prydferth gyda labeli clir sy'n dangos gwahanol rannau o'r blodyn.
Gwobrau: Detholiad o adar cân (teganau meddal) gyda sŵn adar go iawn. Gwobrau 1af, 2il a 3ydd. Edrychwch ar luniau llynedd am ysbrydoliaeth.
Dyddiad cau: 30 Mawrth 2012. Dylid anfon pob cais yn electronig at scan@amgueddfacymru.ac.uk neu os nad yw hyn yn bosibl, postiwch y cais at:
Athro'r Ardd,
Amgueddfa Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd, CF10 3NP.







