Blog-blodau
Gallwch ddefnyddio'r blog i:
- Ofyn cwestiynau i Athro'r Ardd.
- Rhannu straeon neu ffotograffau diddordol ag ysgolion eraill.
- Pan fyddwch chi'n anfon neges, bydd Athro'r Ardd yn ei darllen ac yn ei chyhoeddi ar y we.
Er mwyn bod yn we-ddiogel:
- Ni fyddwn ni'n cyhoeddi enwau unrhyw blant.
- Wrth adael eich neges, rhowch enw'ch ysgol a byddwn ni'n cyhoeddi eich sylw fel 'disgyblion + enw'r ysgol'.
- Cofiwch ofyn am ganiatâd eich athro cyn anfon neges neu lun.
SCAN
Medi 2010
Plannu hadau gwybodaeth
Mae Amgueddfa Cymru yn paratoi i anfon bylbiau’r gwanwyn a photiau i 2,621 o wyddonwyr ysgol gynradd ar draws Cymru, fel rhan o’n ymchwil parhaol i effaith newid hinsawdd.
Rhoddwyd dros 3,000 o fylbiau drwy garedigrwydd y Really Welsh Company a chawsant eu pacio gan dîm o wirfoddolwyr hynod effeithlon. Bydd y bylbiau, y potiau a’r offer yn galluogi ysgolion i gofnodi’r tywydd a dyddiau blodeuo mewn 70 lleoliad ar draws Cymru.
Bydd pob ysgol yn cwblhau tasgau ac yn cadw cofnod drwy gydol y gaeaf a’r gwanwyn er mwyn ennill tystysgrifau gwyddonydd gwych a ddyfernir gan arweinydd y project – Athro’r Ardd. Mwynhaodd y gwirfoddolwyr y profiad ac roeddent yn fwy na pharod i gynorthwyo â logisteg y project gwerth chweil yma, fydd yn galluogi’r Amgueddfa i rannu’i gwybodaeth wyddonol ag ysgolion ar draws Cymru – dim ots pa mor anghysbell maen nhw.
Bydd yr ysgol sy’n ymroi fwyaf yn ennill trip casglu cennin Pedr gyda ffermwyr y Really Welsh company sy’n tyfu eu cynnyrch i gyd o fewn i Gymru.
Yr wythnos yma bydd gyrrwr y fan, Paul Evans, yn dosbarthu’r pecynnau ymchwil ar hyd ffyrdd troellog Cymru i sicrhau bod pob ysgol wedi derbyn eu bylbiau mewn pryd ar gyfer y diwrnod plannu mawr ar 20 Hydref. Mae Paul wedi gweithio i wasanaeth benthyg yr Amgueddfa Genedlaethol ers 20 mlynedd.
categorïau
Pob cofnod
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
cofnodion diweddar
Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2013
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr







