Blog-blodau
Gallwch ddefnyddio'r blog i:
- Ofyn cwestiynau i Athro'r Ardd.
- Rhannu straeon neu ffotograffau diddordol ag ysgolion eraill.
- Pan fyddwch chi'n anfon neges, bydd Athro'r Ardd yn ei darllen ac yn ei chyhoeddi ar y we.
Er mwyn bod yn we-ddiogel:
- Ni fyddwn ni'n cyhoeddi enwau unrhyw blant.
- Wrth adael eich neges, rhowch enw'ch ysgol a byddwn ni'n cyhoeddi eich sylw fel 'disgyblion + enw'r ysgol'.
- Cofiwch ofyn am ganiatâd eich athro cyn anfon neges neu lun.
SCAN
Rhagfyr 2008
Cerdyn Nadolig oddi wrth Athro'r Ardd
Hoffwn ddymuno Nadolig llawen i'r holl ddisgyblion sy'n helpu eleni!
Rydw i wrth fy modd ar yr holl gofnodion tywydd sydd wedi dod i mewn yn barod.
Ydych chi'n hoffi fy het Nadoligaidd? Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at y gwyliau! Ddim yn hir i fynd nawr. Rwy'n edrych ymlaen at ymlacio a threulio amser gyda'r teulu a'r planhigion eraill. Tybed a gawn ni eira dros y Nadolig eleni?
Gobeithio'n fawr y cewch chi wyliau bendigedig ac y daw'ch holl ddymuniadau'n wir!
Cofion cynnes
Athro'r Ardd
categorïau
Pob cofnod
Ffotograffau Hanesyddol (Esmee Ffairburn)
cofnodion diweddar
Cystadleuaeth Darlunio Cennin Pedr 2013
Peregrines on the Clock Tower 2013
Natural science collections in Welsh museums – a Distributed National Collection
Addewid Athro’r Ardd: Fydda i ddim yn anghofio’r blodau hwyr







