Rydych chi yn: Hafan > Addysg > SCAN > I ysgolion... > Plant y Dŵr > Gweithgareddau > Teithio

Amgueddfa Cymru

Teithio

Sut rydych chi'n mynd i'r ysgol?

Ystyriwch sut y mae plant eich dosbarth chi yn dod i'r ysgol. Holwch eich ffrindiau sut y maen nhw'n dod i'r ysgol. Defnyddiwch arolwg ar-lein SCAN Cerdded a Beicio i'ch helpu ac yna e-bostiwch eich canlyniadau i wefan SCAN. Gwnewch graffiau o rai o gwestiynau'r arolwg.

[delwedd: Bws]

Cerddwch i'r ysgol neu fynd ar gefn beic os gallwch — os na allwch wneud hynny, ewch ar y bws — Ac os na allwch wneud hynny chwaith, rhannwch gar gyda'ch cymdogion.

Pam? Mae'n arbed arian, byddwch yn iachach, fyddwch chi ddim yn gwastraffu amser mewn tagfeydd traffig. Bydd llai o lygredd yn y ddinas — bydd llai o blant yn cael anawsterau anadlu fel asthma.

Prosiect Gweithredu

Trafodwch y cartŵn byr hwn.

Gweithiwch fel dosbarth i greu holiadur sy'n cofnodi:

  • Sut y mae'r holl ddisgyblion yn dod i'r ysgol.
  • A ydynt yn credu y gallent ddod i'r ysgol mewn ffordd sy'n creu llai o lygredd e.e., rhannu car, ar y bws, ar gefn beic neu gymryd rhan mewn cynllun "bws sy'n cerdded".
  • Unrhyw ffactorau sy'n eu hatal rhag teithio i'r ysgol mewn ffordd sy'n fwy caredig i'r amgylchedd. Er enghraifft, efallai nad yw plentyn yn gallu dod i'r ysgol ar gefn beic am nad oes ffyrdd diogel i feicio arnynt.
  • Defnyddiwch lungopïau o fap o'ch ardal i ddangos lle mae'r disgyblion yn byw - defnyddiwch symbolau neu ddotiau lliw i ddangos sut y maent yn dod i'r ysgol.
  • Gofynnwch i'r disgyblion ysgrifennu llythyr at eu rhieni yn gofyn a wnân nhw helpu gyda'ch prosiect gan nodi'r holl fanteision. Ar ôl gwneud y map, gallwch awgrymu ffyrdd eraill o deithio i rai o'r plant.
  • Os gwelwch fod problem, fel prinder ffyrdd diogel i feicio neu gerdded arnynt i'r ysgol, anfonwch neges e-bost at y Swyddog. SCAN a fydd yn barod iawn i drafod ffyrdd o ddod dros y broblem gyda chi a'ch dosbarth. Gofynnwch i'r Swyddog Agenda 21 lleol eich helpu i gynllunio "Llwybrau Beicio Diogel" i'ch ysgol.
  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd]

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    [delwedd: Sain Ffagan]

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    [delwedd: Big Pit]

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Wlân Cymru]

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru]

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    [delwedd: Amgueddfa Lechi Cymru]

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    [delwedd: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau]

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.