Nodiadau i Athrawon
Pecyn Addysg y Plant y Dŵr (Cyfnod Allweddol 2)
Mae Pecyn Addysg "Plant y Dŵr" (addasiad gan Siân Roberts)yn cyfuno Hanes Oes Fictoria, Daearyddiaeth (dinasyddiaeth global), Llenyddiaeth a TG. Mae'r pecyn hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer y Cwricwlwm Cymraeg a phynciau ABCh. Gall gael ei ddefnyddio gyda neu heb y prosiect dawns "Waterbabies". Mae'r cwestiynau o fewn y pecyn hwn wedi cael eu cynllunio i'w defnyddio ar gyfer trafodaethau fydd yn cael eu harwain gan yr athro - nid fel cwestiynau ar eu pennau eu hunain i'r disgyblion.
Gweler y rhestr o dargedau'r cwricwlwm y mae'r pecyn hwn yn arwain atynt.
Amcanion:
- Annog defnyddio'r cyfrifiadur yn yr ystafell ddosbarth.
- Cysylltu materion amgylcheddol a materion hanesyddol.
- Darparu fframweithiau gwersi a phynciau trafod ar gyfer athrawon.
RHAN 1: Y Stori

Ceir crynodeb o stori 'The Waterbabies' mewn wyth pennod ar-lein — gyda ffotograffau. Gall yr athro ddarllen y stori yn uchel neu gallwch bwyso botwm i wrando ar recordiad ohoni. Gallech ddarllen un neu fwy o benodau bob dydd — yn dibynnu ar eich anghenion. Byddai'n dda i'r dosbarth ddarllen y stori gyfan ac yna fynd yn ôl i wrando ar Bennod 1 eto. Ar ôl gorffen, cliciwch y botwm ar waelod Pennod 1 i symud ymlaen i Ran 2 i weld y syniadau ar gyfer trafodaeth. Dylech ddarllen trwy'r taflenni gwaith cyn rhoi cynnig arnynt fel dosbarth.
RHAN 2: Ein Hamgylchedd (Syniadau i'w Trafod)

Y bwriad yw i'r athro arwain trafodaeth ar y materion hyn - nid i'r disgyblion geisio'u trafod ar eu pen eu hunain. Gall yr athrawon ddewis pa adnoddau y maent eisiau eu dangos i'r dosbarth trwy'r safle hyn. Os cewch drafferth i gysylltu â'r safwe, cysylltwch â „anielle ar (02920) 573304.
Mae'r rhan hon yn dechrau trwy gymharu bywyd prif gymeriad y stori (Tom) â'n bywydau ni heddiw. Mewn saith cwestiwn ac ateb, mae'r disgyblion yn dysgu am rai o'r gwahaniaethau rhwng ein bywydau ni a bywydau'r plant oedd yn byw yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Trafodir pa mor hen yr oedd pobl yn byw, amodau byw ac effeithiau ein ffordd o fyw ar yr amgylchedd. Daw'r rhan hon i ben gyda 'Pum ffordd hawdd o wneud ein byd yn lle gwell ac i leihau cynhesu byd-eang'. Yna, gofynnir i'r dosbarth 'Pa un o'r rhain y gallwch chi ei wneud?

Y bwriad yw i'r athro arwain trafodaeth ar y materion hyn - nid i'r disgyblion geisio'u trafod ar eu pen eu hunain. Gall yr athrawon ddewis pa adnoddau y maent eisiau eu dangos i'r dosbarth trwy'r safle hyn. Os cewch drafferth i gysylltu â§² safwe, cysylltwch â Danielle ar (02920) 573304.
Mae Rhan 3 yn edrych ar y gwaith yr oedd Tom yn ei wneud yn y stori ac yn ei gymharu ag enghreifftiau go iawn o blant a oedd yn gweithio ledled Cymru.
PART 4: The Dance & Performance

It is advisable that your pupils complete the education pack (parts 1-3) before taking part in the dance. If you wish your class to take part in the dance, then please contact the SCAN Officer for details, on (02920) 573304 or E-mail.
Os oes modd, dylai'ch disgyblion gwblhau'r pecyn addysg (rhannau 1-3) cyn cymryd rhan yn y ddawns. Os ydych yn dymuno i'ch dosbarth gymryd rhan yn y ddawns, cysylltwch â Swyddog SCAN i gael y manylion, ar (02920) 573304 neu E-bostio.
Bydd ein harbenigwyr dawns yn ymweld â'ch ysgol am ddiwrnod cyfan. Yn ystod yr ymweliad, bydd eich disgyblion yn dysgu sut i animeiddio digwyddiadau o'r llyfr clasurol i blant "The Waterbabies". Byddant yn ystyried themâu fel y cymeriadau, y bywyd gwyllt a'r cyfnod pryd yr ysgrifennwyd y llyfr. Mae'r ddawns yn daith ecolegol gyffrous trwy ddŵr.
Y PerfformiadMae llawer o'r ysgolion sy'n cymryd rhan ym Mhrosiect Dawns 'The Waterbabies' yn cynnal perfformiad ar gyfer eu perthnasau a'r gymuned. Yn ogystal â pherfformio, bydd y disgyblion yn cael cyfle i gyflwyno'r prosiectau amgylcheddol y maent wedi bod yn gweithio arnynt ac i drafod y materion sy'n codi gydag aelodau o'r gymuned. Gall y Swyddog SCAN eich helpu i drefnu hyn os dymunwch a byddai modd gwahodd Cynghorwyr i'r achlysur er mwyn sicrhau bod syniadau'r disgyblion yn cael eu clywed. Os oes clwstwr o ysgolion yn eich ardal yn cymryd rhan, gallech gynnal perfformiad ar y cyd.







