Plant Y Dŵr: Pennod 8


Ymlaen â Tom ar ei daith. Druan bach, roedd yn daith ddiflas iddo; fwy nag unwaith, fe ddymunodd ddychwelyd yn ôl i fyny'r afon i chwarae gyda'r brithyll yn haul cynnes yr haf. Ond doedd hynny ddim yn bosib.
Roedd rhaid symud ymlaen. Ymlaen ag e nes iddo weld bwi coch trwy'r niwl.
Yna, er syndod iddo fe drodd y nant a dechrau llifo i mewn tua'r tir. Y llanw oedd wedi troi, wrth gwrs; ond wyddai Tom ddim am y llanw. Yr unig beth a wyddai oedd bod y dŵr croyw wedi troi'n ddŵr hallt mewn dim o dro.
Ac yna fe gafodd deimlad newydd. Teimlai'n gryf ac yn ysgafn; ac, am ryw reswm, fe lamodd o'r dŵr, lathen i'r awyr, a throi tin dros ben fel y mae'r eog yn ei wneud wrth gyrraedd y dŵr hallt, braf am y tro cyntaf.
Doedd ganddo ddim ots bod y llanw yn ei erbyn. Roedd y bwi coch o'i flaen yn dawnsio yn y môr agored; ac fe anelodd at y bwi. Pasiodd Tom heigiau enfawr o bysgod yn gwibio ac yn rhuthro wrth chwilio am fwyd ond chymeron nhw ddim sylw o'i gilydd; ac fe nofiodd heibio i forlo mawr gloyw a oedd yn hela'r pysgod.
Yn y diwedd, cyrhaeddodd Tom y bwi. Dringodd i'w ben ac eistedd arno i gael gweld o'i gwmpas. Daeth awel fain o'r môr i wasgaru'r niwl ac fe ddawnsiai'r tonnau bach yn llawen o gwmpas y bwi a'r bwi'n dawnsio gyda nhw.
Chwarddai'r gwylanod a hedfanai piod y môr, a'u pigau a'u coesau cochion, yn ôl a blaen i'r lan gan chwibanu'n felys ac yn wyllt. Ac fe edrychodd Tom - ac edrych - a gwrando.
Y Diwedd.








