Plant Y Dŵr: Pennod 6

Dywedodd y dyfrgi wrth Tom am yr afon faith a'r môr mawr. Meddyliodd Tom yr hoffai weld y byd mawr crwn, a gweld rhyfeddodau .... Ac i ffwrdd ag e i lawr yr afon.
Ond, gyda'r nos, fe dywyllodd yn sydyn. Cododd Tom ei lygaid a gweld cymylau duon trwchus yn gorwedd ar draws y cwm, fel pe baen nhw'n gorffwys ar y creigiau i'r chwith ac i'r dde.
Daeth teimlad rhyfedd drosto, nid ofn mawr, ond rhyw deimlad llonydd; achos roedd popeth yn llonydd. Doedd dim chwa o awel na ch?n aderyn i'w clywed; yna syrthiodd ychydig o ddiferion mawr o law i'r dŵr. Disgynnodd un ar drwyn Tom ac fe guddiodd ei ben o dan y dŵr.
Rhuodd y taranau, a fflachiodd y mellt gan neidio ar draws y dyffryn ac yn ôl, o gwmwl i gwmwl, o graig i graig, nes bod cerrig yr afon fel pe baen nhw'n ysgwyd; edrychodd Tom i fyny trwy'r dŵr a meddwl mai dyna'r peth harddaf a welodd erioed.
Ond doedd e ddim yn mentro codi ei ben o'r dŵr; achos roedd yn bwrw hen wragedd a ffyn, a'r cesair yn disgyn fel pelets o ddryll ar wyneb y nant ac yn ei chwipio'n drochion gwyn; cyn hir, cododd y nant a rhuthro'n uwch ac yn uwch, yn mynd yn fwy brwnt trwy'r amser, yn llawn chwilod a brigau, a mwydod a moch coed, a hyn a'r llall - digon i lenwi naw amgueddfa.
Roedd y llif yn gryf ac aeth Tom i guddio y tu ôl i garreg ac yno, yng ngolau'r mellt, fe welodd rywbeth newydd - roedd gwely'r nant fel pe bai'n fyw o lyswennod mawr yn troi ac yn trosi, yn ymgordeddu.
Roedden nhw'n mynd ar frys i lawr yr afon, ar y fath ffrwst nes bod Tom braidd yn ofnus. Wrth iddyn nhw frysio heibio, roedd Tom yn eu clywed yn dweud "Dyma storm wych! I ffwrdd â ni i'r môr, bant â ni i'r môr!"








