Plant Y Dŵr: Pennod 2

Cafodd Mr Grimes gynnig glanhau simneiau mewn tŷ mawr crand o'r enw Harthover Place mewn ardal gyfoethog yng Ngogledd Lloegr - ac aeth â Tom gydag e.
Ar ôl cyrraedd y plas, cyrhaeddodd yr amser yr oedd yn gas gan Tom feddwl amdano - cafodd hwp a chic gan Mr Grimes ac roedd rhaid iddo ddringo i mewn i'r grât a chropian i fyny'r simnai ddu, llawn parddu. Roedd yn dywyll fel bola buwch yn y simnai.
Dim ond sgwaryn bach o olau, yn bell o tano oedd i ddangos ble roedd yr ystafell lle'r oedd Mr Grimes yn aros amdano a, cyn hir, doedd dim golau o gwbl. Dringodd Tom yn uwch ac yn uwch, gan lanhau'r simnai wrth fynd.
Cyn hir, rhannodd y simnai'n ddwy, ac fe ymbalfalodd i'r dde, gan ddilyn ei drwyn, er nad oedd yn gallu gweld hwnnw yn y tywyllwch. Wedyn, rhannodd y simnai eto ac fe drodd Tom i'r chwith gan ddal ati i lanhau'r simnai - ac roedd y parddu meddal, du drosto, o'i gorun i'w sawdl.
Roedd yn disgwyl gweld llygedyn o olau trwy'r potiau corn uwch ben ond, er iddo ddringo a dringo, nid oedd cymaint â phen pin o olau i'w weld. Roedd Tom yn gyfarwydd â simneiau'r dref, a oedd yn uchel ac yn gul ac yn syth.
Ond roedd Harthover Place yn hen iawn ac roedd wedi'i ailadeiladu nifer o weithiau fel bod y simneiau'n troi ac yn rhannu yn aml. Roedd Tom wedi drysu'n lân. Roedd yn gwybod ei fod ar goll ond doedd hynny ddim yn ei boeni.








