Plant Y Dŵr: Pennod 1

Gwrandewch
Tom
Tom
Taflu cerryg at coesau ceffyl
Taflu cerryg at coesau ceffyl

Un tro, roedd 'na fachgen bach o'r enw Tom. Ei waith oedd glanhau simneiau. Roedd e'n byw mewn tref fawr yng Ngogledd Lloegr, lle'r oedd digonedd o simneiau i'w glanhau, a digonedd o arian i Tom ei ennill ac i'w feistr ei wario.

Doedd e ddim yn gallu darllen nac ysgrifennu, a doedd e ddim eisiau gwneud hynny chwaith; a doedd e byth yn molchi, achos doedd dim dŵr lle'r oedd e'n byw.

Roedd e'n llefain hanner yr amser ac yn chwerthin yr hanner arall. Roedd e'n llefain pan oedd e'n gorfod dringo'r simneiau tywyll, gan grafu ei benliniau a'i benelinoedd nes eu bod nhw'n gwaedu; a phan oedd y parddu'n mynd i'w lygaid - ac roedd hynny'n digwydd bob dydd o'r wythnos; a phan oedd ei feistr yn ei guro; a phan nad oedd yn cael digon i'w fwyta - ac roedd hynny'n digwydd bob dydd o'r wythnos hefyd.

Ac roedd yn chwerthin hanner arall y dydd, pan oedd e'n chwarae taflu dimeiau gyda'r bechgyn eraill, neu'n chwarae llam llyffant dros y pyst. Ac, am y gwaith glanhau simneiau, a bod ar lwgu eisiau bwyd, a chael ei guro, wel, fel'na roedd hi. Roedd rhaid dioddef hynny fel glaw ac eira a tharanau, ac edrych ymlaen at ddyfodol gwell.

  • Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

    Cewch ddarganfod celf, archeoleg, daeareg a hanes natur. Gyda rhaglen newidiol o arddangosfeydd a digwyddiadau, mae rhywbeth i syfrdanu pawb, beth bynnag sy'n mynd â'ch bryd — ac mae mynediad am ddim!

  • Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru

    Sain Ffagan

    Sain Ffagan yw un o brif amgueddfeydd awyr agored Ewrop, ac atyniad ymwelwyr mwyaf poblogaidd Cymru.

  • Big Pit: Amgueddfa Lofaol Cymru

    Big Pit

    Pwll glo go iawn yw'r Pwll Mawr, ac un o amgueddfeydd mwyngloddio gorau Prydain.

  • Amgueddfa Wlân Cymru

    Amgueddfa Wlân Cymru

    Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd yn hen ffatri wlân y Cambrian Mills, yn lle arbennig ac mae ganddi stori gyfareddol i'w hadrodd.

  • Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru

    Yn OC75, sefydlodd y Rhufeiniaid caer yng Nghaerllion a fyddai'n gwarchod yr ardal am dros 200 o flynyddoedd. Heddiw, yn Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru yng Nghaerllion, byddwch yn dysgu pam yr oedd byddin y Rhufeiniaid cymaint i'w hofni.

  • Amgueddfa Lechi Cymru

    Amgueddfa Lechi Cymru

    Mae'r Amgueddfa Lechi'n cynnig diwrnod llawn mwynhad ac addysg mewn ardal ddramatig o brydferth ar lan Llyn Padarn.

  • Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

    Mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn adrodd hanes diwydiant ac arloesi yng Nghymru, heddiw a thros y 300 mlynedd diwethaf.

  • Rhagor: Archwilio'r Casgliadau

    Gwefan newydd cyffrous yw 'Rhagor' lle cewch ddysgu rhagor am ein casgliadau hynod.