Pethau Mawr
Staff: Siân Davies, David Jenkins a Robert Protheroe Jones.Yn dilyn y llyfryn lliw ar eglwys Llandeilo Tal-y-bont, a ailagorwyd yn ddiweddar yn Sain Ffagan, bydd yr ail gyhoediad yn y gyfres yn edrych ar enghreifftiau o beiriannau trwm ac arteffactau mawr sy'n cael eu harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Ymysg yr arteffactau bydd:
- Morthwyl Aberaeron
- Melin Rholio
- Gwasg Bric
- Wagen Lo
- Replica trên Trevithick
- Monoplan Robin Goch
Bydd darn bach (tua 500 gair) ar bob arteffact, yn defnyddio nid yn unig y wybodaeth a gasglwyd yn ystod y broses ymchwil ar gyfer sefydlu Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ond hefyd yn cynnwys gwybodaeth ychwanegol sydd wedi'i gasglu oddi wrth ymwelwyr ers agor yr amgueddfa.
Bydd y testun yn cynnwys dewis o ffotograffau, rhai yn ffotograffau hanesyddol o'r casgliad, tra bod eraill yn cael eu deillio o ffeiliau o luniau a dynnwyd yn diweddar, i ddarparu gwrthgyferbyniad gweledol effeithiol.
