Cofebau Cristnogol Cynnar
Staff: J. Horak & H. JacksonMae'r project hwn yn barhad o astudiaethau petrolegol a ymgymerwyd i gefnogi ymchwil archaeolegol i gofebau a cherfluniau canol oesol cynnar yn ne orllewin a de Cymru gan Dr Nancy Edwards (Prifysgol Bangor) a Dr Mark Redknap (Amgueddfa Cymru). Mae'r ddau ddarn o waith i'w cyhoeddi tua diwedd 2007.
Mae astudiaethau o'r litholegau lle gwnaed y cofebau a cherfluniau yn caniatáu sylw ar darddiad y deunyddiau a ddefnyddiwyd, pellter eu cludiant, a thebygrwydd neu wahaniaeth yn y ffordd y gweithiwyd litholegau tebyg. Archwiliwyd dros 450 o gerrig yn nau gam blaenorol y project sylweddol hwn, ac yn y rhan olaf o'r astudiaeth bydd 110 carreg arall o ogledd Gymru yn cael eu hastudio. Mae'r gwaith petrolegol cychwynnol ar gyfer y cam hwn o'r project dan gefnogaeth grant y Bwrdd Astudiaethau Celtaidd i Dr Nancy Edwards. Bydd y gwaith petrolegol olynol yn cael ei gefnogi ar y cyd rhwng yr Amgueddfa a'r Academi Brydeinig.







