Rydych chi yn: Hafan > Curadurol ac ymchwil > Projectau > Yr Adran Ddaeareg  > Tirwedd peri-gondwanaidd: palaeoddaearyddiaeth a ffawna canolbarth asia a'r dwyrain canol > Palalosöig Isaf gororau Gondwanaidd de Twrci
English

Palalosöig Isaf gororau Gondwanaidd de Twrci

Staff: W. T. Dean [gyda O. Monod, Université d'Orleans, Ffrainc]

Cychwynnodd rhaglen ymchwil estynedig ar baleontoleg, stratisgraffeg a phalaeontoleg Palalosöig Isaf Asia Leiaf, yn arbennig de ddwyrain Twrci a'r Taurides, yn gynnar yn y 1970au ac mae'n parhau. Arweiniodd at gyfoeth o wybodaeth newydd, yn arbennig am ffawna trilobitau, a dangosodd berthynas agos rhwng ffawna gwahanol gyfnodau gyda'r rhai o dirweddau Peri-Gondwanaidd megis gogledd orllewin Affrica, Penrhyn Iberia a Bohemia, yn ogystal â de Tsieina. Cyfrannodd y gwaith yn sylweddol at ein gwybodaeth am ddosbarthiad balaeontolegol a ffawna'r tirweddau hyn.