Casgliadau

Mae'r casgliadau Molysgiaid yn Amgueddfa Cymru yn cynnwys tua 180,000 o eitemau o lawer o wahanol gasgliadau sydd wedi eu cyfuno i greu un gyfres systematig.

O blith y casgliadau, yr un â'r pwysigrwydd hanesyddol mwyaf yw Casgliad Melvill-Tomlin a drosglwyddwyd inni yn 1955.

Asaphis deflorata

Un o dasgau mawr y 22 mlynedd diwethaf oedd llunio cronfa ddata o gasgliad Melvill-Tomlin, ac rydyn ni wedi llwyddo! Mae'n cynnwys rhyw 84,000 o eitemau y gallwch chi chwilio amdanynt ar y wefan hon, a 45,000 pellach o gasgliadau eraill.


Mae dros 5,000 eitemau teip, darlun ac enw wedi cael eu hadnabod eisoes, 3,300 o'r rheiny o gasgliad Melvill-Tomlin yn unig. Nid yw llawer ohonynt wedi cael eu hadnabod o hyd ac rydym ni'n amcangyfrif hwyrach bod yna gyfanswm o hyd at 10,000. Os ydych chi'n meddwl bod gennym ni eitem deip, yna porwch drwy'r gronfa ddata, ond os na chewch chi ddim byd y tro cyntaf, rhowch gynnig ar bori'n fwy cyffredinol. Mae'n bosibl nad yw'r sbesimenau rydych chi'n chwilio amdanynt wedi cael eu hadnabod fel teip eto.

Amgueddfa Cymru — National Museum Wales